Y Gynghrair Genedlaethol: Aldershot 2-0 Wrecsam

Bernard Mensah Image copyright Rex Features
Image caption Bernard Mensah sgoriodd gôl gyntaf Aldershot yn y fuddugoliaeth yn erbyn Wrecsam

Daeth rhediad diweddar Wrecsam o ennill pedair gêm olynol i ben yn Aldershot wrth i'r Dreigiau golli o 2-0 a llithro o frig tabl Cynghrair Genedlaethol Lloegr.

Daeth gôl gyntaf y gêm wedi chwarter awr gyda Bernard Mensah yn sgorio i'r tîm cartref wedi chwarter awr.

Roedd Alex Reid yn agos at unioni'r sgôr ychydig funudau yn ddiweddarach ond fe aeth ei ergyd dros y trawst.

Gyda 12 munud yn weddill cyn yr egwyl fe wnaeth ergyd Adam McDonald daro'r trawst a Shamir Fenelon fanteisiodd yn gynt na neb yn y cwrt chwech i ddyblu mantais y tîm cartref.

Roedd Wrecsam yn lwcus i beidio bod lawr i 10 dyn ar ddiwedd yr hanner cyntaf gyda Mark Carrington yn gweld carden felen am drosedd y tu allan i'r cwrt cosbi, gyda chefnogwyr Aldershot o'r farn ei fod yn haeddu cerdyn coch.

Er i Wrecsam ymosod drwy gydol yr ail hanner fe lwyddodd amddiffyn Aldershot i sefyll yn gadarn wrth i'r gêm ddirwyn i ben gyda Wrecsam yn colli eu lle ar frig tabl y gynghrair gyda Sutton Utd yn dringo uwch eu pennau ar wahaniaeth goliau.