Dyrchafiad i Elfyn Evans o fewn tîm ralio M-Sport

Elfyn Evans Image copyright Getty Images
Image caption Elfyn Evans yw'r Cymro cyntaf i ennill Rali Cymru GB wedi'i iddo ddod yn fuddugol yn 2017

Mae'r gyrrwr Rali Elfyn Evans wedi'i ddyrchafu o fewn tîm M-Sport ar gyfer Pencampwriaeth Ralio'r Byd 2018.

Fe wnaeth Evans o Ddolgellau, Gwynedd ddod y Cymro cyntaf i ennill Rali Cymru GB ym mis Hydref ac mae'r dyrchafiad o ganlyniad i flwyddyn lwyddiannus tu ôl i'r llyw.

Gorffennodd yn y pumed safle ar ddiwedd tymor Pencampwriaeth Ralio'r Byd 2017.

Ar gyfer y bencampwriaeth yn 2018 bydd Evans yn cystadlu fel un o ddau brif yrrwr M-Sport gyferbyn â Sébastien Ogier, sydd wedi'i goroni'n bencampwr byd bum gwaith.

Bydd Evans a'i gyd-yrrwr Daniel Barritt yn cymryd lle Ott Tänak o Estonia, sydd wedi cyhoeddi ei fod yn ymuno gyda thîm Toyota.

Dywedodd Evans: "Yn dilyn blwyddyn arbennig i'r tîm, mae'n wych byddwn yn rhan o'r tîm eto ar gyfer y flwyddyn nesaf."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol