Pro 14: Gweilch 6-47 Glasgow

Adam Hastings Glasgow Image copyright Rex Features
Image caption Adam Hastings yn sgorio 17 pwynt gan gynnwys cais

Dangosodd Glasgow brynhawn Sul pam eu bod nhw ar ben eu hadran hwy o Gynghrair y Pro 14.

Ar ddiwedd y chwarae roedd yna saith cais i Glasgow a dim ond dwy gic gosb i'r Gweilch.

Ond roedd yr hanner cyntaf yn gymharol agos.

6-14 oedd y sgôr wrth iddyn nhw gyrraedd deugain munud ar y cloc a dyna ddiwedd sgorio'r tîm o Gymru.

Roedd hi'n ail hanner digalon i gefnogwyr y Gweilch.

Ymhen dwy funud roedd Scott Cummings wedi croesi am gais, yna rhyng-gipiad gan George Turner yng nghanol y cae yn rhoi cais arall i Glasgow gan ddod â'r sgôr i 6-26.

Ond nid oedd yr Albanwyr wedi gorffen eto. Wedi 54 munud dyma George Horne yn croesi'r gwyngalch.

Roedd y Gweilch, er hynny, yn pwyso ac yn cael cryn dipyn o'r bêl, ond yn anffodus nid oedd modd torri drwy amddiffyn Glasgow.

Yna gyda 77 munud ar y cloc roedd yna gais i Brandon Thomson - un ddadleuol yng ngolwg cefnogwyr y Gweilch.

Yna er mwyn rhoi'r hoelen olaf yn yr arch ar derfyn y gêm rhyng-gipiad gan Lelia Masaga ar ei ddwy ar hugain ei hun a ras ar hyd y cae i ychwanegu saith arall i sgôr Glasgow a gadael y Gweilch yn cywilyddio.

Daeth yr 80 munud i ben gyda'r Gweilch yn colli'n drwm 6-47.