Iechyd sylfaenol: Galw am hawl i'r Gymraeg

fferyllydd
Image caption Nid yw gwasanaethau fel fferyllfeydd wedi'u cynnwys yn y safonau drafft

Wrth i Lywodraeth Cymru baratoi i gyhoeddi eu cynlluniau ar gyfer yr iaith Gymraeg ym maes iechyd, mae 30 o ymarferwyr iechyd wedi galw am hawliau clir i gleifion gael derbyn gwasanaethau yn Gymraeg gan ddarparwyr gofal sylfaenol fel meddygon teulu a fferyllwyr.

Daeth y llythyr at y gweinidog sydd â chyfrifoldeb am y Gymraeg, Eluned Morgan, wrth i weision sifil baratoi i gyhoeddi dyletswyddau iaith ym maes iechyd cyn pleidlais yn y Cynulliad yn yr wythnosau nesaf.

Yn y safonau drafft, ni chafodd gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol eu cynnwys. Yn ôl awduron y llythyr felly, fyddai yna ddim hawliau cyfreithiol gan unigolion i dderbyn gwasanaethau Cymraeg wrth ymwneud â meddygon teulu, deintyddion, optegwyr na fferyllwyr.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mae Dr Elin Walker Jones, sy'n Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol, wedi arwyddo'r llythyr

'Camau penodol'

Fe ddywed y llythyr: "Fel y gwyddoch, prif gyswllt y cyhoedd â'r gwasanaethau iechyd yw'r gwasanaethau hyn, felly mae'n allweddol bod cleifion yn cael siarad â'r gwasanaethau gofal sylfaenol ledled y wlad yn Gymraeg.

"Credwn ei bod yn hanfodol nad yw darparwyr y gwasanaethau rheng flaen hyn yn cael eu heithrio o'r Safonau arfaethedig.

"Wedi'r cwbl, rydym yn sôn am hawliau rhai o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas, ar adegau yn eu bywydau pan fo cyfathrebu yn Gymraeg yn bwysig iawn i'w hiechyd ac o ran sicrhau'r driniaeth orau iddyn nhw … credwn fod rhaid i ddarparwyr gwasanaethau gofal sylfaenol fod yn ddarostyngedig i safonau'r Gymraeg o dan yr un fframwaith statudol â'r byrddau iechyd a sefydliadau iechyd eraill.

"Rhaid cymryd camau penodol i sicrhau bod deddfwriaeth ac is-ddeddfwriaeth sydd yn yr arfaeth yn adlewyrchu'r angen i hybu'r Gymraeg mewn gwasanaethau gofal sylfaenol. Mae digon o waith ymchwil rhyngwladol yn ogystal yn cefnogi'r galwadau hyn. Erfyniwn arnoch felly i newid y rheoliadau fel bod gan bobl ar lawr gwlad hawliau cadarn yn y meysydd hollbwysig hyn."

Cryfhau gwasanaethau?

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Nod ein fframwaith strategol, Mwy na Geiriau, yw cryfhau gwasanaethau Cymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

"Mae'n nodi y dylai'r gallu i ddefnyddio iaith y claf neu'r sawl sydd angen gofal fod yn elfen hollbwysig o'r gofal - yn hytrach nag yn rhywbeth dewisol ychwanegol.

"Rydyn ni'n gweithio gyda darparwyr gofal iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys darparwyr gofal sylfaenol, i sicrhau eu bod yn mynd ati'n fwriadol i gynnig gwasanaethau Cymraeg i bobl, yn enwedig grwpiau penodol fel yr henoed neu blant bach.

"Rydyn ni wedi ymgynghori ar reoliadau drafft i lunio safonau ar gyfer y sector iechyd mewn perthynas â'r Gymraeg, ac rydyn ni wrthi ar hyn o bryd yn ystyried y ffordd ymlaen."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol