Ail-agor llwybr arfordir wedi hollt

Llwybr Image copyright Paul Hinge
Image caption Mae'r llwybr arfordirol yn cael ei ddefnyddio llawer gan bobl sy'n cerdded o Aberystwyth i Borth

Mae rhan o Lwybr Arfordir Ceredigion a Chymru i'r gogledd o Aberystwyth wedi ail-agor llai nac wythnos ar ôl iddo gael ei gau.

Cafodd y llwybr rhwng Wallog a Clarach ei gau dros dro ar ôl i ddarn o'r clogwyn hollti gan achosi pryder am ddiogelwch.

Mae'r llwybr 40 medr uwchlaw creigiau a môr Bae Ceredigion.

Brynhawn dydd Llun fe gadarnhaodd Cyngor Sir Ceredigion fod "llwybr arall wedi cael ei drefnu a fydd yn caniatáu i'r cyhoedd osgoi'r ardal a effeithiwyd a hynny yn ddiogel."

"Mae cyflymder yr ymdriniwyd â'r mater yn tystio i waith caled swyddogion y Cyngor, contractwyr a chefnogaeth a chydweithrediad y tirfeddiannwr lleol" meddai'r datganiad.

Mae Cynghorydd lleol, Paul Hinge, wedi diolch i'r tirfeddiannwr am ei barodrwydd i ganiatáu'r llwybr ar ei dir, ond mae'n rhybuddio cerddwyr i gadw eu cŵn ar dennyn gan fod defaid ac ŵyn gerllaw hefyd.

Image copyright Cyngor Sir Ceredigion
Image caption Mae'n ymddangos bod yr hollt wedi cael ei greu gan wynt a glaw diweddar

Straeon perthnasol