Diffibriliwr yn codi calon cymuned yng Ngwynedd

diffib
Image caption Y cynghorydd Peter Garlick sydd wedi bod yn arwain yr ymgyrch ym Montnewydd

Mae cymuned yng Ngwynedd wedi gweld cyfle i roi ail fywyd i hen flwch ffôn yn y pentref, yn dilyn ymgyrch leol i gael diffibriliwr cyhoeddus.

Pentref Bontnewydd ger Caernarfon ydy'r diweddaraf i gael peiriant achub bywyd, a hynny yn dilyn ymgyrch gan y cynghorydd lleol i godi arian ar ei gyfer.

Gyda chymaint o bobl bellach yn defnyddio ffonau symudol, mae nifer y blychau a chiosgs ffôn yng Nghymru wedi lleihau yn sylweddol.

Mae felly'n gwneud "perffaith synnwyr" i osod y peiriant newydd yn yr hen giosg, meddai Peter Garlick.

Mynediad 24 awr

Gobaith Mr Garlick oedd hefyd gallu gosod y peiriant mewn "rhywle oedd ar gael i bawb, unrhyw awr o'r dydd".

"Beth fydd yn digwydd fydd, petai rhywun yn cael cardiac arrest yn ardal Bont, ac yn galw am ambiwlans, fe fydd y gwasanaeth ambiwlans yn rhoi gwybod i'r person fod 'na diffib o fewn cyrraedd iddyn nhw, ac mi fedran nhw ddod yma i'w nôl o cyn i'r ambiwlans gyrraedd, achos mae bob munud yn cyfri' mewn amgylchiadau o'r fath.

"Mae'r gymuned wedi bod yn ffantastig a busnesau lleol wedi bod yn hael iawn efo'u rhoddion.

"Y targed oedd ei gael o'n ei le erbyn mis Mawrth nesa', ond fe lwyddon ni i gasglu'r arian mewn rhyw chwe wythnos, sy'n dangos faint o gefnogaeth oedd 'na yn lleol."

Eglurodd Mr Garlick fod Bontnewydd yn "bentref prysur gyda nifer o ddigwyddiadau yn cael eu trefnu yn ystod y flwyddyn, yn ogystal â thîm pêl-droed, ac felly roedd hi''n gwneud perffaith synnwyr cael diffib yma".

"Mi fydd o ar gael i bawb, a dwi'n meddwl fod o'n un o'r rhai cyntaf o'i fath, yn sicr yn yr ardal yma. Mae o'n wych bod ni wedi gallu rhoi bywyd newydd i'r hen giosg.

"Gobeithio rŵan fydd pobl yn gweld hwn a bydd 'na fwy o gymunedau yn mynd ati i osod rhai yn eu pentrefi."

Roedd yr holl gynllun wedi costio tua £2,700, rhwng prynu'r offer a'u gosod.

Image caption Mae'r peiriant wedi ei osod mewn hen flwch ffôn

Dywedodd llefarydd ar ran PADS (Cynllun Mynediad Cyhoeddus i Ddiffibrilwyr) fod y manteision o gael diffibriliwyr cyhoeddus yn gallu bod y gwahaniaeth rhwng "byw neu farw".

"Mae nifer cynyddol o gymunedau yng Nghymru bellach yn codi arian i ariannu diffibriliwr ar gyfer eu pentref neu dref," meddai.

"Wrth ddefnyddio diffibriliwr, mae'r siawns o oroesi arestiad cardiaidd yn cynyddu o hyd at 50% petai claf yn cael mynediad sydyn i'r peiriant.

"Mae pob eiliad yn cyfrif mewn arestiad cardiaidd ac mae'r diffibrilwyr hyn yn arbed llawer o fywydau."

Straeon perthnasol