Cymdeithas y Cŵn Defaid Cymreig yn mynd yn rhyngwladol

Eli
Image caption Mae Eli'n un o'r 2,500 o gŵn sydd ar gofrestr Cymdeithas y Cŵn Defaid Cymreig

Ugain mlynedd ers ei sefydlu, mae Cymdeithas y Cŵn Defaid Cymreig wedi mynd yn rhyngwladol.

Am y tro cyntaf erioed, mae cŵn wedi cael eu cofrestru yn Sweden a'r Weriniaeth Tsiec.

Cafodd Cymdeithas y Cŵn Defaid Cymreig ei sefydlu yn 1997, wrth i'r rheiny oedd yn frwdfrydig am y brid boeni bod y math arbennig yma o gi ar fin marw allan.

Yn 2017, mae gan y gymdeithas 2,500 o gŵn defaid Cymreig pur ar eu cofrestr.

Ffordd unigryw o weithio

Mae John Davies o Lanilar yn un o'r bobl fu'n frwdfrydig am sefydlu Cymdeithas y Cŵn Defaid Cymreig.

Yn 1997, cafodd drafferth dod o hyd i gi ar gyfer gast Gymreig oedd yn berchen iddo.

"60 mlynedd yn ôl, roedd cŵn Cymreig i'w cael ar lawer iawn o ffermydd," meddai.

"Yn y blynyddoedd wedyn, daeth y treialon yn fwy poblogaidd, gyda'r Border Collie o'r Alban yn dominyddu gyda'r gwaith treialon."

Image caption Roedd John Davies o Lanilar yn rhan o sefydlu Cymdeithas y Cŵn Defaid Cymreig

Mae gan gŵn Cymreig ffordd unigryw o weithio, gyda sgiliau hela cryf, cynffon uchel a chyfarthiad awdurdodol.

Mae'r cŵn Cymreig yn gallu amrywio mewn maint, lliw a nodweddion gweledol.

Ychwanegodd Mr Davies: "Aeth y ci Cymreig allan o ffasiwn yn sydyn iawn wrth i bobl ddechrau eu croesi [gyda bridiau eraill].

"Aeth y cŵn Cymreig yn brin iawn a dwi'n grediniol iawn y byddai'r math yma o gi wedi marw allan."

2,500 wedi'u cofrestru

Yn 1997, dim ond 80 o gŵn pur oedd i'w cael yng Nghymru.

O'r 80, dim ond 60 oedd yn gallu cael eu hychwanegu at y gofrestr genedlaethol.

Roedd y prinder mewn nifer hefyd yn cyfyngu ar y broses fridio.

Erbyn 2017, mae'r ffigwr wedi codi i dros 2,500, gyda'r cŵn cyntaf yn cael eu cofrestru yn rhyngwladol eleni.

Image caption Mae Zuzana Holmanova wedi cofrestru dau gi Cymreig pedigrî yn y Weriniaeth Tsiec

Yn y Weriniaeth Tsiec, mae Zuzana Holmanova wedi cofrestru cŵn defaid Cymreig am y tro cyntaf erioed.

"Buom ni yn y Sioe Amaethyddol rhyw chwech neu saith mlynedd yn ôl ym mhencampwriaeth cneifio'r byd," meddai.

"Dyna ble gwelsom ni'r math yma o gi am y tro cyntaf, ac roedden ni wrth ein bodd gyda nhw."

'Diddordeb cynyddol'

Mae Ms Holmanova bellach wedi cofrestru dau gi Cymreig pedigrî, gyda 25 o gŵn bach o'r un gwaed yn gobeithio cael eu cofrestru y flwyddyn nesaf.

"Mae 'na ddiddordeb cynyddol yn y brîd Cymreig ymysg ffermwyr yn y Weriniaeth Tsiec," meddai.

"Mae'r cŵn Cymreig yn wahanol i'r Border Collie sy'n gyffredin yma.

"Mae'r cŵn o Gymru yn gallu dysgu gweithio heb hyfforddiant proffesiynol, yn syth gyda'r ffermwr, fel maen nhw'n dymuno."

Pynciau Cysylltiedig