Cost plant mewn gofal wedi treblu i £250m ers 2001/02

dynes a phlentyn Image copyright Getty Images

Mae'r gost i gynghorau sir o gadw plant mewn gofal wedi treblu ers 2001/02, pan oedd yn £76m, i £256m eleni.

Mae BBC Cymru yn deall fod un cyngor yn talu £16,000 yr wythnos ar gyfer un plentyn oherwydd gofynion arbennig.

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) fod y cynnydd oherwydd bod mwy o alw ac oherwydd cymhlethdod rhai o'r anghenion.

Yn ôl adroddiad i Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol mae'r gost yn un sy'n anodd ei gynnal.

Cynnydd o 600%

Mae cynghorau Cymru wedi gweld eu gwariant ar wasanaethau ar gyfer plant mewn gofal yn cynyddu rhwng 80% a 600% ers 2001/02, cyn bod chwyddiant yn cael ei ystyried.

Cyngor Caerdydd sydd â'r gwariant uchaf yng Nghymru. Yno fe gynyddodd y gost 88%, o £8.5m yn 2001/02 i £41.5m yn 2016/17.

Fe welodd Cyngor Torfaen eu costau yn cynyddu o £1.4m i £10.1m yn yr un cyfnod.

Image caption Dywed yr adroddiad fod awdurdodau lleol yn wynebu her fawr

Dywedodd Stewart Blythe, swyddog polisi gyda CLlLC bod mwy o blant angen gofal a bod cynnydd hefyd oherwydd natur eu cymhlethdodau.

"Mae hyn oherwydd cynni economaidd, y cynnydd mewn tlodi a'r newidiadau yn y gyfundrefn lles," meddai.

"Mae mwy o ymwybyddiaeth o blant yn cael eu hecsploetio yn rhywiol ac mae'r pwnc yma yn ei hun yn hynod gymhleth.

"Mae awdurdodau lleol yn wynebu her wrth geisio eu cefnogi wrth gwrdd â'u hanghenion, ac yn aml iawn mae hyn yn golygu bod rhaid trosglwyddo'r plentyn y tu allan i'r gyfundrefn gofal sy'n cael ei ddarparu gan yr awdurdod yn lleol."

'Her fawr'

Dywedodd Mr Blythe fod un awdurdod lleol yng Nghymru wedi gorfod talu tua £16,000 yr wythnos am le i un plentyn, oherwydd trafferth dod o hyd i unrhyw un oedd yn gallu cwrdd ag anghenion y plentyn dan sylw.

"O ganlyniad i gynni economaidd, rydych ond angen un neu ddau o blant gydag anghenion cymhleth iawn ac mae eich cyllideb yn cael ei chwalu," meddai.

"Mae mwy o awdurdodau yn ceisio ymyrryd ynghynt er mwyn atal plant rhag mynd i ofal yn y lle cyntaf, ond ar yr un pryd mae'n her fawr i geisio buddsoddi yn hyn pan mae'r gyllideb yn cael ei thorri."

Image caption Awgrymodd yr Athro Jonathan Scourfield y gallai cynghorau orfod derbyn mwy o risg yn y dyfodol

Yn ôl yr adroddiad i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, mae'r rhan fwyaf o gynghorau yn disgwyl gorwario ym maes gwasanaethau plant eleni.

Roedd yr adroddiad yn cynnwys tystiolaeth gan CLlLC, y Gwasanaeth Mabwysiadau Cenedlaethol ac ADSS - Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.

Mwy o risg?

Dywedodd yr Athro Jonathan Scourfield, o Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, mai un rheswm am y cynnydd yn y niferoedd oedd bod plant yn fwy tebygol o gael eu cyfeirio at y system ofal.

Dywedodd fod hinsawdd yn bodoli lle mae angen lleihau risg, a bod hyn yn golygu fod y cyhoedd a gweithwyr yn y maes yn fwy tebygol o "chware'n saff ac felly cyfeirio plant at yr awdurdodau" os oes problemau.

"Fel cymdeithas, rydym am rwystro'r problemau yma rhag gwaethygu yn hytrach nag aros tan fod angen symud plentyn o'r teulu, sy'n gam mawr iawn.

"Mae tueddiad i gynghorau osgoi risg ac o bosib fel cymdeithas mae angen i ni roi caniatâd iddyn nhw fyw gyda mwy o risg er mwyn cadw plant gyda'u teuluoedd lle mae hynny'n bosib."

Pynciau Cysylltiedig