Uwch Gynghrair: Chelsea 1-0 Abertawe

Chelsea defender Antonio Rudiger celebrates scoring his first Premier League goal against Swansea City Image copyright Getty Images
Image caption Antonio Rudiger yn dathlu ar ôl ei gôl gyntaf yn yr Uwch Gynghrair

Er i reolwr Chelsea Antonio Conte gael ei anfon o'r maes fe lwyddodd ei dîm i drechu Abertawe gydag Antonio Rudiger yn sgorio ei gôl gyntaf yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Bu'n rhaid i Conte dreulio'r ail hanner yn yr eisteddle ar ôl iddo ffraeo gyda'r dyfarnwr Neil Swarbrick am ei benderfyniad i beidio rhoi cic gornel i Chelsea gyda'r sgôr yn gyfartal.

Y tîm cartref oedd yn llwyr reoli ond bu'n rhaid iddynt aros tan y 55 munud a pheniad Rudiger i'w rhoi ar y blaen ar ôl ergyd gan N'Golo Kante.

Fe wnaeth Abertawe amddiffyn yn ystyfnig ond heb lwyddo i gael un ergyd ar gôl Chelsea.

Golygai'r canlyniad fod yr Elyrch wedi colli pum allan o'u chwe gêm ddiwethaf.

Mae Abertawe yn parhau yn safle 19, gyda dim ond gwahaniaeth goliau yn gwahanu nhw a Crystal Palace sydd ar waelod yr adran.