Carcharu dyn am werthu cyffur all achosi canser

Richard Anthony Spargo Image copyright Heddlu De Cymru
Image caption Dywedodd y barnwr bod Richard Anthony Spargo wedi rhoi "elw cyn diogelwch"

Mae dyn o Abertawe wedi'i garcharu am 20 mis am redeg busnes oedd yn gwerthu cyffuriau corfflunio a cholli pwysau anghyfreithlon, gan gynnwys un all achosi canser.

Roedd Richard Anthony Spargo, 41, yn rhedeg busnes ar-lein o'r enw Nucleus Research.

Roedd yn cyflenwi i gorfflunwyr oedd yn awyddus i adeiladu maint eu cyhyrau, yn ogystal â chynnyrch oedd yn honni i gynorthwyo colli pwysau.

Clywodd Llys y Goron Abertawe bod un cyffur oedd ar werth i fod i gael ei ddefnyddio ar anifeiliaid yn unig, ac roedd un arall yn cynnwys cemegyn sydd wedi achosi canser mewn treialon clinigol.

Clywodd y llys hefyd fod y busnes wedi gwneud elw o £100,000 dros gyfnod o 18 mis.

Image copyright Cyngor Abertawe
Image caption Clywodd y llys bod y cynnyrch yn cynnwys cemegyn sy'n achosi canser
Image copyright Cyngor Abertawe
Image caption Roedd Spargo yn gwerthu'r cynnyrch dan enw Nucleus Research

Fe wnaeth Spargo gyfaddef dau gyhuddiad o fod â chyffur dosbarth C yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i ddosbarthu, yn ogystal ag un cyhuddiad o dorri rheolau diogelu defnyddwyr ac un arall o dorri rheoliadau bwyd cyffredinol.

Dywedodd y Barnwr Phillip Harris-Jenkins fod Spargo'n farus a'i fod wedi gwerthu'r cynnyrch i bobl pan nad oedd yn gwybod eu cynnwys.

"Fe wnaethoch roi elw cyn diogelwch y defnyddiwr," meddai.