Pro14: Dreigiau 32-32 Ulster

Lloyd Fairbrother Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Lloyd Fairbrother o'r Dreigiau yn ceisio torri'r llinell fantais

Fe wnaeth y Dreigiau ac Ulster sgorio cyfanswm o 10 cais wrth i'r ddau dîm orfod bodloni ar gêm gyfartal yn y Pro14.

Tua'r diwedd fe lwyddodd y Dreigiau i fynd ar y blaen am gyfnod byr a hynny ar ôl bod ar ei hôl hi o 12 pwynt ar un adeg.

Ashton Hewitt (dau), Matthew Screech, Liam Belcher ac Angus O'Brien groesodd y llinell gais i'r tîm cartref.

Sgoriodd Christian Leali'ifano gyda symudiad olaf y gêm i ddod â'r sgôr yn gyfartal, ond fe fethodd gyda'r gic fyddai wedi sicrhau buddugoliaeth.

Mae'r canlyniad yn golygu fod y ddau dîm yn cael tri phwynt yr un.

Pynciau Cysylltiedig