Y Bencampwriaeth: Caerdydd 3-1 Norwich

Joe Ralls Image copyright Getty Images
Image caption Joe Ralls sgoriodd gôl gyntaf Caerdydd o'r smotyn

Fe wnaeth rheolwr Caerdydd Neil Warnock ddathlu ei ben-blwydd yn 69 oed gyda buddugoliaeth yn erbyn Norwich yn y Bencampwriaeth.

Fe wnaeth cic o'r smotyn gan Joe Ralls, a goliau Junior Hoilett ac Omar Bogle sicrhau fod tîm y brifddinas yn parhau yn ddiguro gartref y tymor hwn.

Norwich aeth ar y blaen yn haeddiannol yn yr hanner cyntaf diolch i ergyd Marco Stiepermann.

Gyda Chaerdydd yn brwydro nôl i fod 2-1 ar y blaen ar ôl yr egwyl fe wnaeth Ralls fethu cic arall o'r smotyn cyn i Bogle wneud y gêm yn ddiogel.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Caerdydd yn symud o fewn un pwynt i Wolverhampton Wanderers ar frig yr adran.