Pro14: Cheetahs 28-21 Scarlets

Cheetahs v Scarlets Image copyright Getty Images

Fe wnaeth y Scarlets golli eu hail gêm o'r tymor yn y Pro14 nos Sadwrn wrth i'r Cheetahs ennill gem gyffrous yn Bloemfontein.

Y tîm cartref oedd ar y blaen ar ddiwedd yr hanner cyntaf wedi ceisiau gan William Small-Smith i'r Cheetahs a James Davies i'r Scarlets.

Fe sgoriodd yr asgellwr Craig Barry ddwywaith yn yr ail hanner i sicrhau'r fuddugoliaeth, er i Ioan Nicholas groesi i'r Cymry.

Llwyddodd yr ymwelwyr i sicrhau pwynt bonws yn y munudau olaf, ac mae tîm Wayne Pivac yn aros ar frig Adran B er y canlyniad.

Pynciau Cysylltiedig