Ydych chi'n cofio gaeafau oeraf Cymru?

Cart horses provided better traction than motorised vehicles when snow hit Welshpool in 1940 Image copyright Geoff Charles
Image caption Ceffylau a chart yn mynd drwy'r eira yn strydoedd Y Trallwng yn 1940

Mae eira wedi achosi trafferthion mewn sawl rhan o Gymru yn ystod y dyddiau diwethaf ond sut mae'r tywydd garw eleni yn cymharu gyda rhai o aeafau'r gorffennol?

Mae rhai yn cofio nôl i aeafau eithriadol oer 1946-47 ac 1962-63. Cafodd eira gyda dyfnder o 165cm ei gofnodi yn ardal Rhuthun ym mis Mawrth 1947 ac yn Nhredegar yn 1963. Mae hon yn dal yn record answyddogol yn y DU ar gyfer yr eira dyfnaf i'w gofnodi mewn ardal boblog.

Ond 48cm yw trwch yr eira mwyaf sy'n cael ei gydnabod gan Y Swyddfa Dywydd (Met Office). Cafodd hwnnw ei gofnodi gan yr orsaf dywydd ger Llyn Fyrnwy ar 21 Chwefror, 1963.

Ond beth mae'r ystadegau'n ddweud? Pryd oedd y gaeafau mwyaf garw?

Image copyright Geoff Charles
Image caption Peiriant clirio eira yn cael ei ddefnyddio yn Nant Ffrancon, Ionawr 1959

Yr eira mwyaf

Mae'r ystadegau'r Swyddaf Dywydd am eira ar y llawr (snow-lying dataset) yn dechrau yn 1971 hyd at 2011. Mae'n rhoi syniad o faint o ddyddiau o eira mae Cymru wedi ei gael (sydd yn cael ei ddiffinio fel 50% o'r arwynebedd).

O ddefnyddio y dull yma i fesur, y pum gaeaf gyda'r mwyaf o eira ers 1971 yw:

  • 1978/79: 45 diwrnod
  • 2009/10: 27 diwrnod
  • 1981/82: 27 diwrnod
  • 1984/85: 26 diwrnod
  • 2010/11: 24 diwrnod
  • 1961-1990 ar gyfartaledd = 18 diwrnod
  • 1981-2010 ar gyfartaledd = 12 diwrnod

Mae cofnodion yr orsaf dywydd ger Llyn Fyrnwy yn mynd yn ôl ymhellach ac yn dechrau yn 1946 hyd at 1992.

Y pum gaeaf gyda'r mwyaf o eira yno oedd:

  • 1978/79: 89 diwrnod
  • 1962/63: 78 diwrnod
  • 1946/47: 63 diwrnod
  • 1969/70: 62 diwrnod
  • 1968/69: 56 diwrnod
Image copyright Geoff Charles
Image caption Tractor yn clirio eira o'r ffordd yn Llanwddyn yn ystod eira trwm 1947

Y gaeafau oeraf

1963 sydd yn cael ei ystyried yn swyddogol fel y gaeaf oeraf yng Nghymru gan y Swyddfa Dywydd.

Dyma'r gaeafau a'r tymheredd oeraf ledled Cymru (misoedd Rhagfyr, Ionawr, Chwefror).

Sut fydd gaeaf eleni yn cymharu tybed?

Image copyright Geoff Charles
Image caption Bwydo'r anifeiliad yn Frongoch ger Y Bala, 1 Chwefror, 1963

Pynciau Cysylltiedig