Day drwyddo i wyth olaf Pencampwriaeth Snwcer Prydain

Ryan Day Image copyright Getty Images

Llwyddodd y Cymro Ryan Day i sicrhau buddugoliaeth er mwyn ennill ei le yn rownd wyth olaf Pencampwriaeth Snwcer Prydain.

Roedd hi'n edrych yn ddu arno ar un adeg yn ystod y gêm yn erbyn Li Hang, pan aeth ar ei hôl hi o bedair i ddwy, ond fe ddaeth yn ôl i ennill o 6-5.

Seliodd y fuddugoliaeth gyda rhediad campus o 138 yn y ffram olaf.

Dyma'r tro cyntaf i Day lwyddo i gyrraedd wyth ola'r bencampwriaeth, ar y 18fed cynnig, a bydd yn wynebu enilllydd gêm rhwng Mark Joyce o Loegr a Lyu Haotian o China.

Bydd y gêm yn rownd yr wyth olaf yn dechrau ddydd Gwener.

Pynciau Cysylltiedig