Cyhuddo ail ddyn o ladrad mewn Swyddfa Bost yn Rhosybol

rhosybol Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y lladrad ar 6 Tachwedd yn Swyddfa'r Post Rhosybol

Mae ail ddyn sydd wedi'i gyhuddo o ladrad mewn Swyddfa'r Post ar Ynys Môn wedi ymddangos yn y llys ddydd Gwener.

Mae Zak Corbett, 43 oed wedi ei gyhuddo o gymryd rhan yn y lladrad yn Swyddfa Bost Rhosybol ger Amlwch ar 6 Tachwedd.

Fe gafodd gweithiwr ei fygwth gan ddau ddyn â throsol neu far haearn, a mynnu arian ganddo.

Fe gafodd swm o £100 ei ddwyn yn ystod y lladrad.

Mae Mr Corbett wedi ei gadw yn y ddalfa cyn ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ar 8 Ionawr.

Mae Thomas Haywood, 36 oed eisoes wedi ei gyhuddo o'r drosedd a bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ar 11 Rhagfyr.

Straeon perthnasol