A ddylai Cymru ofalu am blant a phobl hŷn gyda'i gilydd?

Un o bobl hyn cartref yng Nghwmaman yn helpu i fwydo bachgen bach Image copyright S4c
Image caption Mae gan bobl hŷn a phlant lawer i'w ddysgu oddi wrth ei gilydd yn ôl seicolegwyr

Fyddai'r gymdeithas yn elwa o ddod â phlant bach a phobl hŷn at ei gilydd i rannu gofal dydd?

Dyna ydy'r cwestiwn sydd dan sylw mewn arbrawf sy'n cael ei gynnal ar raglen Hen Blant Bach ar S4C.

Mae Dr Catrin Hedd Jones a Dr Nia Williams yn seicolegwyr ym Mhrifysgol Bangor ac mae nhw'n rhannu eu harbenigedd yn ystod y gyfres.

"Mae canolfan yn Japan wedi bod yn gwneud hyn ers 40 mlynedd," meddai Dr Jones, sy'n arbenigo mewn dementia.

"Yno mae cyfuno gofal dydd i bobl hŷn a phlant yn yr un adeilad yn digwydd yn hollol naturiol.

"Fues i'n ddigon lwcus i fynd i Tokyo i weld y ganolfan ac roedd pobl yn dewis a oedden nhw eisiau helpu efo'r bwydo neu efo'r cinio, roedden nhw'n cymryd rhan yn yr ymarfer corff efo'r plant ac roedd yn beth hollol normal i'w wneud.

"Mae 'na ganolfannau yn America hefyd lle maen nhw'n cynnig y math yma o ofal ar y cyd wedyn mae'r gyfres yma'n cyflwyno'r syniad er mwyn dangos bod gan bobl hŷn gymaint i'w gyfrannu i gymdeithas ac i blant. Mae'n bwysig ein bod ni'n gwneud mwy o hyn.

"Mae Awstralia yn gwneud ymchwil hefyd i weld be ydi'r ffordd orau i gyfuno pobl hŷn a phlant mewn gofal dydd, felly mae'n tyfu ond mi fyddai'n grêt petai Cymru yn gallu bod ar y blaen yn hyn."

Ar y rhaglen mae chwech o blant mewn meithrinfa yn treulio tridiau mewn canolfan ddydd i bobl hŷn a gweithgareddau'n cael eu trefnu ar eu cyfer.

Ers talwm fe fyddai'r cenedlaethau wedi cymysgu yn naturiol ond mae mwy o ferched yn gweithio, mwy o blant mewn gofal meithrinfa, a chymdeithas wedi mynd ar wahân heddiw meddai Dr Jones.

"Mae'n adeg anodd yn ariannol i gynnal canolfannau dydd hefyd, felly oes na ffordd o wneud hyn ychydig yn fwy sustainable?" gofynna Dr Jones.

Image copyright S4c
Image caption Mae Dr Catrin Hedd Jones a Dr Nia Williams yn dadansoddi beth sy'n digwydd wrth ddod â'r ddwy genhedlaeth at ei gilydd yn y gyfres newydd

"Mae un o'r safleoedd lle fuon ni gyda'r gyfres lle mae'r plant a'r bobl hŷn wirioneddol yn yr un adeilad. Mae'r bobl hŷn yn clywed y plant yr ochr arall i'r drws ond dydyn nhw erioed wedi dod at ei gilydd a dwi'n meddwl bod hynny'n bechod."

Bydd yr ymchwil sy'n deillio o'r gyfres yn cael ei chyhoeddi maes o law ond mae'r arbenigwyr wedi gweld yn barod fod na fanteision mawr o ddod â'r ddwy genhedlaeth at ei gilydd o ran iaith a datblygiad emosiynol y plant.

"Mae'r plant yn cael mwy o amser un-wrth-un i siarad a sgwrsio," meddai Dr Jones "ac mae'r bobl hŷn hefyd yn cael budd o'r ffaith nad ydi plant yn beirniadu, maen nhw'n derbyn pobl fel ag y maen nhw ac yn eu hannog i fod ychydig bach yn fwy prysur a chamu i fewn i sefyllfa lle fysen nhw ddim yn gwneud fel arfer heb fod y plant angen ychydig bach o anogaeth a chymorth."

"Mae rhywun yn gallu gor-ofalu weithiau, sy'n gwneud i bobl hŷn golli sgiliau sydd wedi datblygu ers degawdau."

Image copyright S4c

Yn ôl Dr Nia Williams, sy'n arbenigo ar ddatblygiad plant, mae manteision eraill yn dod o gymysgu gydag amrywiaeth ehangach o bobl.

"Un peth sydd ddim mewn llawer o feithrinfeydd ydy dynion, felly o ran persbectif y plant rhai o'r canlyniadau ryden ni wedi ei weld ydy fod dynion yn chwarae'n wahanol efo plant," meddai Dr Williams.

"Lle mae'r merched yn fwy mamol ac yn licio dilyn y rheolau mae dynion yn fwy chwareus, dydi hi ddim ots gynnyn nhw am greu llanast ac mae hynny i weld wedi apelio yn fawr at y plant.

"Hefyd, mewn meithrinfeydd, tydy plant ddim yn cael y sylw un-i-un yma ac yn yr abrawf yma roeddan ni'n gweld fod na ddigon o bobl hŷn i eistedd i lawr a rhoi sylw i'r plant, cael ychydig o fwythau a stori ac mae hynny wedi cael effaith bositif ar ymddygiad y plant. Maen nhw wedi mynd o fod yn hollol wyllt i arafu am ychydig bach," meddai Dr Williams.

Image copyright S4c
Image caption Mae bod gyda phobl hŷn yn helpu plant gyda'u sgiliau cyfathrebu a'u dealltwriaeth o wahanol alluoedd a sefyllfaoedd mewn bywyd meddai Dr Catrin Hedd Jones

Maen nhw hefyd wedi gweld datblygiad ieithyddol o ran gallu'r plant i sgwrsio a chymdeithasu meddai Dr Nia Williams ac mae hyder rhai plant sydd fel arfer yn fwy distaw a swil yn cynddu wrth iddyn nhw gael mwy o sylw a chyfle.

"Mae rhywun yn meddwl pam bod ni ddim yn gwneud hyn yn barod? Mae'n gwneud perffaith synnwyr," meddai Dr Williams.

"Rydan ni'n gwybod bod meithrineydd yn llefydd prysur, dani'n gwybod fod plant eisiau lot o sylw.

"'Da ni'n gwybod bod nhw'n licio symud o gwmpas a chwara felly mae eu rhoi nhw efo pobl hŷn sydd efo profiadau bywyd, sydd efo'r sgiliau yma i fod yn gweithio efo'r plant, mae'n ychydig bach o no-brainer mewn gwirionedd."

"Ac i'r bobl hŷn mae rhannu ei profiad a'u hamser gyda'r plant yn eu deffro nhw ac yn rhoi pwrpas iddyn nhw ac yn adfywio'r sgiliau yma sydd gynnyn nhw."

Hen Blant Bach, S4C,nos Sul, 10 Rhagfyr, 20:00

Image copyright S4c
Image caption Yn ystod y tridiau pan oedd y plant yn y canolfannau gofal roedd gan y bobl hŷn fwy o egni, ac roedden nhw'n fwy siaradus ac yn chwerthin mwy meddai Dr Williams.