Gorchmynion diogelu yn 'targedu unigolion bregus'

Caniau alcohol ar y stryd ym Mhillgwenlli, Casnewydd
Image caption Caniau alcohol ar y stryd ym Mhillgwenlli, Casnewydd

Mae ffigyrau newydd yn dangos bod bron i 390 o orchmynion mewn grym ar draws Cymru i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn mannau cyhoeddus.

Mae Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus yn mynd i'r afael ag ymddygiad fel yfed alcohol yn yr awyr agored, cardota a chysgu ar y stryd.

Yn ôl gwrthwynebwyr mae'r gorchmynion yn mynd yn rhy bell ac yn targedu unigolion bregus.

Dywedodd y Swyddfa Gartref y dylid eu defnyddio'n "gymesur" ac mae rhai trigolion sy'n byw mewn ardaloedd lle mae gorchymyn mewn grym yn dweud eu bod yn helpu atal trafferthion.

Gall gorchymyn fod yn berthnasol i lefydd penodol iawn fel llwybr neu arhosfan bysiau, i ganol trefi cyfan fel yn achos Llanelli a Chasnewydd, neu i siroedd cyfan, fel yn achos Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.

Mae'r ffigyrau gafodd eu casglu gan BBC Cymru dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn dangos bod 388 o'r gorchmynion mewn grym yng Nghymru i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac mae nifer o gynghorau yn defnyddio grymoedd ychwanegol i gyfyngu ar gŵn mewn mannau cyhoeddus.

Ymateb cymysg

Yn ôl Lara Ten Caten, cyfreithiwr ar ran y mudiad hawliau dynol Liberty, mae camau cyfreithiol eraill yn bodoli i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol.

"Mae'r gorchmynion yma'n galluogi cynghorau i ysgubo unrhyw un neu unrhyw beth 'anghyfleus' neu 'annymunol' o'r strydoedd, a throi gweithgareddau diniwed yn droseddau dros nos," meddai.

Cymysg yw'r ymateb yn ardal Pillgwenlli yng Nghasnewydd ers i'r cyngor gymeradwyo cyflwyno gorchymyn ym mis Gorffennaf yn atal yfed alcohol ar y stryd, ac yn rhoi'r hawl i'r heddlu orfodi grwpiau o fwy na thri pherson i wahanu.

Mae rhai trigolion yn dweud eu bod wedi gweld gwahaniaeth.

Dywedodd Mike Ross bod 'na "lawer" o ymddygiad gwrthgymdeithasol ym mis Mehefin pan symudodd i'r stryd lle mae o'n byw, ond bod "dim trafferth o gwbl" ers i'r heddlu gynnal cyrch yno.

Image copyright Google
Image caption Daeth gorchymyn gwasgaru i rym ym Mrymbo yn Wrecsam ym mis Hydref wedi honiadau bod grwpiau o bobl ifanc wedi bod yn "bygwth" pobl ac yn achosi difrod troseddol

Ond yn ôl Alexis Bayley, sy'n gweithio yn y fferyllfa, mae llawer o'r bobl sy'n yfed neu'n cymryd cyffuriau yn ddigartref.

"Does nunlle iddyn nhw fynd... a dydyn nhw ddim yn cael llawer o help gan y gymuned i gael lle arall ar eu cyfer," meddai.

"[Mae'r heddlu] yn galw'n eithaf aml i'w symud, ond pan mae'r heddlu wedi mynd maen nhw'n tueddu i ddod yn ôl. Dyma ble mae eu ffrindiau nhw. 'Sa i'n gweld pethe'n gwella ar y foment."

'Digynsail o eang'

Mae mudiad The Manifesto Club yn ymgyrchu yn erbyn cyflwyno Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus ar draws y DU, gan ddadlau eu bod yn cyfyngu'n ddifrifol ar ryddid unigolion i fyw eu bywydau bob dydd.

Pan wnaeth Cyngor Casnewydd ymgynghori ynghylch y gorchymyn ym Mhillgwenlli fe ddywedodd cyfarwyddwr yr ymgyrch, Josie Appleton bod y gorchmynion "yn ddigynsail o eang" ac "yn galluogi cynghorau i greu troseddau".

Mae elusen Shelter Cymru'n dadlau mai ofer yw cosbi unigolion digartref yng Nghymru pan mae 'na ddiffyg gwasanaethau i'w helpu.

Dywedodd rheolwr ymgyrchoedd yr elusen, Jennie Bibbings: "Dywedodd un dyn wrthon ni 'os 'da chi'n rhoi dirwy i mi am gardota, mae'n rhaid imi gardota er mwyn talu'r ddirwy'.

"Mae rhai o'r bobl dan sylw wedi cael profiadau trawmatig. Ein pryder ni yw y gallai'r gorchmynion achosi mwy o drawma i bobl a'i gwneud hi'n anoddach iddyn nhw geisio am help."

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: "Dylid defnyddio Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus yn gymesur i daclo ymddygiad gwrthgymdeithasol ac nid i dargedu grwpiau penodol neu aelodau mwyaf bregus cymdeithas."

Straeon perthnasol