Cynnig gwasanaeth yn Gymraeg yn 'sialens ychwanegol'

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mae Gareth Mahoney yn dweud bod cynnig gwasanaeth Cymraeg yn bwysig i'r cwmni

Mae angen mwy o gefnogaeth i gwmnïau sy'n dymuno cynnig gwasanaeth yn Gymraeg, yn ôl dyn busnes sy'n dweud bod costau ychwanegol ynghlwm â gweithredu'n ddwyieithog.

Yn ôl Gareth Mahoney, sy'n un o gyfarwyddwyr cwmni tai gwyliau Y Gorau o Gymru, mae pob aelod o staff yn y cwmni yn siarad Cymraeg, ac mae'r wefan yn gwbl ddwyieithog.

Ond mae'n dweud bod heriau i gynnal busnes mewn dwy iaith.

Ym mis Awst fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod yn rhoi £400,000 "i helpu mentrau bach a chanolig i fod yn fwy dwyieithog" fel rhan o'u hymrwymiad i gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

Dywedodd Mr Mahoney: "Mae'r [iaith Gymraeg] yn bwysig i ni fel cwmni ond mae o'n dod â sialens ychwanegol. Wrth gwrs, mae costau ac amser ynghyd â gwneud yn siŵr bod pethau yn ddwyieithog.

"Byswn i'n hoffi gweld mwy o gymorth ar yr ochr 'na, fel bod busnesau yn gallu cynnal gwasanaeth dwyieithog."

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mae Huw Marshall yn dweud bod buddsoddi mewn gwasanaeth dwyieithog yn talu ffordd

Mae Huw Marshall yn rheoli Yr Awr Gymraeg, #YaGym ar Twitter - syniad yr hashnod ydy bod cwmnïau yn hyrwyddo'u cynnyrch yn Gymraeg am awr yr wythnos ar wefannau cymdeithasol.

Yn ôl ef, mae modd marchnata ar-lein yn rhad ac am ddim, ond mae'n cydnabod bod angen i fusnesau sylweddoli bod budd economaidd i ddefnyddio'r Gymraeg.

"Mae 'na werth [i'r Gymraeg] achos mae o'n gwneud i gwmnïau sefyll allan ac weithiau mae 'na gostau ynghlwm â hynny," meddai.

"Ond mae'n rhaid pwyso a mesur y ffaith, wrth farchnata yn Gymraeg, buddsoddiad ydy o, ac mae o yn y pendraw am gynyddu'i incwm nhw."

Mae angen gwneud gwaith ymchwil er mwyn dangos sut mae'r Gymraeg yn gallu rhoi hwb i fusnesau yn ôl Mr Marshall.

"Mae angen buddsoddiad mewn ymchwil i gael y ffigyrau yna, achos dyna mae pobol eisiau - ystadegau i ddangos iddyn nhw beth yw gwerth y Gymraeg," meddai.

Buddsoddiad o £400,000

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi buddsoddiad o £400,000 i gefnogi busnesau bach a chanolig i ddefnyddio'r Gymraeg.

Y nod meddai'r llywodraeth oedd bod y Gymraeg i'w gweld fwy mewn cymunedau ac mae'n rhan o'u hymrwymiad i gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

Ychanegodd y llywodraeth bod Comisiynydd y Gymraeg yn cynnig gwasanaethau i hybu a hwyluso defnydd o'r iaith.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol