Camdriniaeth yn cael ei weld fel problem ddinesig

Jane Hutt mewn cynhadledd gyda'r heddlu yn 1987
Image caption Jane Hutt (chwith) mewn cynhadledd oedd rhwng Cymorth i Fenywod Cymru a'r heddlu yn 1987

Problem y dref ac nid problem y wlad oedd camdriniaeth ddomestig yn nhyb nifer yn yr 80au.

Roedd yn bwysig felly bod sylfaenwyr Cymorth i Ferched Cymru yn chwalu'r myth.

Ac un ffordd i wneud hynny oedd ymweld â'r Eisteddfod Genedlaethol.

"Er mwyn cael cyhoeddusrwydd a'r neges drosodd mewn ardaloedd gwledig, mi wnaethon ni o'r cyfnod cynnar yn 1978 roi stondin yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac mi oedd gennym ni stondin bob blwyddyn yn yr eisteddfod," meddai Jane Hutt, yr Aelod Cynulliad.

Galw am lochesi

Y cyn aelod o gabinet Llywodraeth Cymru oedd un o'r ffigyrau blaenllaw tu ôl i'r penderfyniad i sefydlu'r elusen.

Roedd Pwyllgor 'ar drais mewn priodas' yn San Steffan wedi cynnal ymchwiliad gan gymryd tystiolaeth o Gymru.

Un o'u hargymhellion oedd y dylai llochesau gael eu sefydlu a hynny 'yn gyflym'. Fe aeth Jane Hutt ac eraill at yr Arglwydd Albert Huish, oedd yn faer Caerdydd a gofyn iddo am help.

"Roedd e'n cydymdeimlo gyda'n galwad i ddod o hyd i dŷ, i Gyngor Caerdydd roi tŷ i ni allu defnyddio fel lloches," meddai.

Image caption Swyddfa Cymorth i Ferched Cymru yn 1992

Cafodd y lloches gyntaf ei agor yn 1975 ac ar ôl cael nawdd gan y Swyddfa Gymreig cafodd Cymorth i Ferched Cymru ei sefydlu yn 1978 a Jane Hutt ei phenodi'r cydgysylltydd cyntaf.

Diben y mudiad cenedlaethol yw dod a diwedd i gamdriniaeth ddomestig ac maen nhw yn cefnogi mudiadau arbenigol yng Nghymru sydd yn cynnig gwasanaethau eang i fenywod, dynion a phlant sydd wedi dioddef camdriniaeth.

Mae'r elusen hefyd yn gyfrifol am linell gymorth ac yn cynnal ymgyrchoedd a chodi ymwybyddiaeth.

Diffyg adnoddau

Ond yn y dyddiau cynnar gwirfoddolwyr oedd wrthi ac roedd adnoddau yn brin.

Er hynny erbyn i'r swyddfa agor yng Nghaerdydd yn 1978 roedd saith o grwpiau wedi dechrau gweithredu yng Nghymru.

"Yn syth ar ôl i ni gyhoeddi'r peth (y lloches) a'i agor fe gaethom ni ein llorio gan geisiadau.

"Felly dros nos roedden ni yn gweithio ac yn cefnogi menywod oedd yn profi trais yn eu bywydau ac oedd wrth gwrs yn effeithio eu plant hefyd."

Image caption Roedd Sue Bowyer (yma yn 1989) yn dweud bod yn rhaid iddyn nhw "ymladd bob cam o'r ffordd" er mwyn cael yr awdurdodau i wrando yn y dyddiau cynnar

Roedd hi'n bwysig ehangu'r llochesau ar draws Cymru.

"Roedd yna farn, bod hyn efallai yn broblem ddinesig oedd yn effeithio'r dosbarth gweithiol. Fe wnaeth hi gymryd amser hir i bobl gael y neges bod trais ymhob cymuned, ymhob cartref, ymhob sefyllfa economaidd-gymdeithasol."

Roedd hynny yn agwedd welodd Sue Bowyer, fu'n gweithio efo'r elusen am 17 mlynedd hefyd.

'Problem' y dref

Mae'n cofio un cydweithwr yn dweud wrthi am gyfarfod gyda chynghorwyr ynglŷn â sefydlu lloches mewn ardal ddinesig.

"Fe ddywedon nhw, 'Byddwch chi'n allforio problem i'n hardal ni a dydyn ni ddim eisiau chi yma'. Byddai hynny, dw i'n credu, gobeithio, y tu hwnt i'n dychymyg ni y dyddiau yma.

"Ond dyna'r math o ddiwylliant oedd yn bodoli ar y pryd."

Cytuno bod agweddau'r awdurdodau wedi gwella erbyn hyn mae Jane Hutt hefyd.

"Roedd yn rhaid i ni weithio mor galed i'r heddlu gymryd diddordeb, i gynghorwyr gymryd diddordeb. Mae hynny i gyd wedi newid."

Image caption Mae codi ymwybyddiaeth o gamdriniaeth ddomestig, fel y poster hwn yn 1993, wedi bod yn rhan bwysig o waith Cymorth i Ferched Cymru

Sue Bowyer oedd yn gyfrifol am ymladd am hawliau lles y menywod yr oedd hi'n helpu yn yr 80au, a hynny yn ystod cyfnod Margaret Thatcher pan oedd hi'n bwriadu cyflwyno treth y pen.

Roedd lobio gwleidyddion yn rhan o'u gwaith.

Mewn amser fe ddechreuodd gwleidyddion gymryd sylw, gyda'r AS, y ddiweddar Mo Mowlam yn gofyn am gael cyfarfod a'r elusen yn rhoi tystiolaeth i un o bwyllgorau San Steffan.

"Yn aml bydden ni yn siarad gyda gweinidogion llywodraeth neu weision sifil ac yn llwyddo i gael dim ond un frawddeg yn y canllaw oedd yn cael ei ddarllen gan swyddfeydd lleol.

"Os oeddech chi'n gallu newid hynny fe allai wneud gwahaniaeth mawr."

Image caption Ers 2015 mae rheolaeth drwy orfodaeth, sef person sy'n dioddef camdriniaeth emosiynol a seicolegol yn anghyfreithlon

Roedd rheolaeth ariannol yn un o'r problemau y daeth Sue Bowyer ar ei thraws wrth weithio gyda'r mudiad ac mae'n croesawu'r ddeddf ddiweddar sydd yn gwneud rheolaeth drwy orfodaeth yn anghyfreithlon.

Mae'n cofio pa mor enbyd oedd sefyllfa ambell wraig yn y dyddiau cynnar.

Un enghraifft oedd derbyn galwad gan fenyw oedd yn dweud nad oedd hi'n gallu gadael ei gŵr am nad oedd hi'n gwybod lle oedd y safle bws agosaf.

"Fe ddywedodd menyw arall - 'Does 'na ddim ffordd allen ni adael. Does gen i ddim esgidie gaeaf. Dw i ddim wedi cael cot ers 20 mlynedd'. Roedd hi'n ganol gaeaf."

Chwilio am eu partneriaid

"Mi oedd gŵr rhywun arall wedi datgysylltu'r holl wresogwyr a'u cymryd nhw lawr o'r waliau pan oedd e'n gweithio i ffwrdd."

Pan agorodd y lloches gyntaf yn yr 80au yn ardal Abertawe mae Lynne Sanders yn cofio dynion yn dod i chwilio am eu partneriaid.

"Ar y pryd roedden ni yn gyson yn cael dynion oedd yn cam-drin yn troi fyny i'r eiddo, yn neidio dros y waliau cefn, yn dod i'r drws ffrynt, yn dilyn gwirfoddolwyr ac yn y blaen."

Prin iawn mae hynny yn digwydd heddiw meddai'r rheolwraig lloches, sydd hefyd yn brif weithredwr Cymorth i Fenywod yn Abertawe ac mae'r gwasanaeth erbyn hyn yn fwy proffesiynol "gyda 'p' fach".

Yn ystod y 40 mlynedd ers i Cymorth i Ferched Cymru gael ei sefydlu mae sawl deddf wedi ei phasio yn y maes ac yn ôl y rhai sy'n gweithio i'r elusen maen nhw wedi gwneud gwahaniaeth.

Image copyright Getty Images

Roedd deddf Cartrefi Person Digartref yn un o'r deddfau pwysig meddai Jane Hutt.

"Mae'n anodd credu nad oedd yna ddull, na meini prawf mewn cyfraith, er mwyn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i ail gartrefu merched oedd wedi dioddef camdriniaeth ddomestig neu wedi gadael camdriniaeth ddomestig."

Angen newid agwedd

Un o'r deddfau diweddar mae Prif Weithredwr yr elusen yng Nghymru, Eleri Butler, yn tanlinellu yw Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ddaeth i rym yng Nghymru yn 2015 am ei fod yn ffocysu ar atal camdriniaeth yn ogystal ag ymateb yn gynnar.

Ond mae un ymhob tri o ferched yng Nghymru yn profi rhyw fath o drais a cham-drin yn ystod eu bywydau ac yn 2016 cafodd un menyw ei lladd ar gyfartaledd bob 28 diwrnod yng Nghymru.

Mae yna waith i'w wneud o hyd i newid agwedd mewn cymdeithas meddai.

"Mae merched yn dal i ddweud wrthym ni eu bod nhw'n cael eu beirniadu, eu labeli neu eu beio.

"Ac mi ydyn ni wedi gweld hynny'n ddiweddar yn yr ymwybyddiaeth sydd wedi ei godi ynglŷn ag aflonyddu rhywiol yn y wasg.

"Mae 'na lot o feio'r dioddefwyr a'u cywilyddio nhw'n digwydd."

Image copyright LISA PEZZZCK
Image caption Addysgu pobl ynglŷn â beth yw perthynas iach yw un o'r heriau i'r dyfodol medd Eleri Butler

Yn ôl Lynne Sanders mae'r ddealltwriaeth wedi gwella ond dydy o'n dal ddim digon da.

"Dw i dal i wneud sgyrsiau (lle mae rhywun yn dweud) 'Wel pam bod nhw'n aros? Fydden ni ddim yn aros pe bydden ni yn y sefyllfa yna'.

"Am ei fod yn bwnc mor gymhleth dw i'n meddwl bod gennym ni ffordd i fynd er mwyn bod dealltwriaeth y cyhoedd ar y lefel y dyle fe fod."

Codi ymwybyddiaeth a mwy o addysgu ymhlith cymdeithas yw un ateb medd Eleri Butler.

"Beth ydyn ni yn ei olygu gyda pherthynas iach? Beth ydyn ni'n golygu pan rydyn ni yn dweud perthynas saff, gyfartal? Perthynas di-drais? A pa fath o ymddygiad sy'n dderbyniol a ddim yn dderbyniol mewn perthynas?"

Fe all unrhyw un sydd yn dioddef camdriniaeth ddomestig, rywiol neu unrhyw ffurf arall o drais yn erbyn menywod yng Nghymru gysylltu gyda Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 80 10 800 neu trwy we-sgwrs 24 awr er mwyn cael gwybodaeth gyfrinachol a chefnogaeth a chymorth i gael mynediad at wasanaethau lleol.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol