Dreigiau 15-0 Enisei

Aaron Wainwright Image copyright Huw Evans picture agency

Er y perfformiad siomedig fe lwyddodd y Dreigiau i gipio buddugoliaeth yn erbyn y tîm o Rwsia Enisei yng Nghwpan Her Ewrop o 15 i 0.

Fe ddaeth tri chais i'r tîm cartref, un gan Aaron Wainwright a dau arall gan Adam Warren.

Roedd y tîm o Went wedi rhoi hoe i'w chwaraewyr mwyaf profiadol a rhoi cyfle i'r gwaed ifanc.

Ar brydiau doedd y Dreigiau ddim yn ymddangos fod ganddyn nhw uchelgais ac roedd yna ddiffygion amlwg o ran cyd-chwarae.

Ond wnaeth yr ymwelwyr ddim gwneud pethau yn hawdd iddyn nhw chwaith. Roedd y tywydd hefyd yn golygu bod yr amodau yn heriol.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod nhw mewn sefyllfa dda yng Ngrŵp 1 y cwpan gyda 10 pwynt ar ôl tair gêm.