Cwpan Pencampwyr Ewrop: Scarlets 33-28 Benetton

Cais Paul Asquith Image copyright Getty Images
Image caption Paul Asquith yn sgorio i selio buddugoliaeth hwyr iawn i'r Scarlets

Bachodd cais hwyr Paul Asquith fuddugoliaeth i'r Scarlets yn erbyn 14 dyn Benetton.

Adeiladodd y tîm cartref fantais iach diolch i ddau gais Gareth Davies, cyn i Robert Barbieri daro 'nôl.

Ond er i Francesco Minto dderbyn cerdyn coch wedi 23 munud, dangosodd yr ymwelwyr eu gallu i frwydro, gyda chais Jayden Hayward yn ateb ymgais Tadhg Beirne i ymestyn mantais bechgyn tre'r sosban.

Aeth yr ymwelwyr â'r gêm i'r Scarlets yn yr ail hanner wrth i Angelo Esposito a Federico Ruzza dirio i roi'r fantais i'r tîm o'r Eidal am y tro cyntaf.

Ond gyda cholled ddrwg-enwog ar y gorwel, llwyddodd y Scarlets i gipio'r fuddugoliaeth yn y munudau olaf.

Sgoriodd Steff Evans gyda phum munud i fynd, cyn i Asquith dirio i gadw gobeithion y Scarlets yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop yn fyw.

Pynciau Cysylltiedig