Selby'n curo Ramirez ar bwyntiau

Lee Selby ac Eduardo Ramirez Image copyright Reuters

Fe gafodd y bocsiwr pwysau plu Lee Selby fuddugoliaeth unfrydol yn erbyn y Mecsicanwr Eduardo Ramirez yn Llundain nos Sadwrn.

Doedd dim perygl i'r Cymro ildio Pencampwriaeth Pwysau Plu IBF ar ôl i'w wrthwynebydd fethu â chadw ei bwysau i lawr cyn yr ornest.

Roedd cyflymder Selby ar ei draed a gyda'i ddyrnau yn amlwg yn y Copper Box Arena, ac roedd llawer o ergydion Ramirez yn aflwyddiannus.

Selby oedd yr enillydd ar bwyntiau ym marn y beirniaid a wnaeth ddyfarnu marciau o 119-109, 118-110 a 116-112 o'i blaid.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Selby, 30, wedi cael 26 o fuddugoliaethau mewn 27 o ornestau.

Dywedodd ar ôl yr ornest ei fod yn barod i ymladd yn erbyn y bocsiwr o Leeds, Josh Warrington, ar ei domen ei hun yn Elland Road.

Mae disgwyl i'r ornest honno ddigwydd ym mis Ebrill neu ym mis Mai y flwyddyn nesaf.