Dyn wedi ei anafu'n ddifrifol ar ôl bod ar sled

Hofrennydd Image copyright Gwylwyr y Glannau Penarth
Image caption Cafodd y dyn ei gludo i Gaerdydd wedi'r digwyddiad

Mae dyn wedi cael anafiadau difrifol ar ôl bod ar sled brynhawn Sul ger Ton Pentre yn y Rhondda.

Cafodd cerbyd ambiwlans, parafeddyg mewn car, a chriw sydd yn delio gyda digwyddiadau mewn ardaloedd peryglus eu hanfon i'r lleoliad, yn ogystal â hofrennydd.

Roedd timau achub mynydd Gorllewin y Bannau a Chanolbarth y Bannau hefyd wedi eu galw i gynorthwyo.

Cafodd y dyn ei anfon i Ysbyty Athrofaol Cymru, ond y gred yw nad yw ei anafiadau yn rhai sy'n peryglu ei fywyd.

Pynciau Cysylltiedig