Reading 2-2 Caerdydd

Lee Tomlin Image copyright Rex Features
Image caption Lee Tomlin yn sgorio ail gôl Caerdydd wedi 91 munud yn erbyn Reading

Fe wnaeth Caerdydd sgorio ddwy waith gyda 10 munud yn weddill o'r gêm i sicrhau pwynt oddi cartref yn erbyn Reading nos Lun.

Roedd Caerdydd ar ei hol hi o 2 - 0 ar yr hanner yn dilyn gôl i'w rwyd ei hun gan yr amddiffynnwr, Callum Paterson.

Fe sgoriodd cyn asgellwr Abertawe, Modou Barrow yr ail i Reading wedi 41 munud.

Fe gafodd rheolwr yr Adar Gleision, Neil Warnock ei hel o'r ystlys am gwyno gyda'r swyddogion, cyn gweld ei dîm yn sgorio dwy gôl mewn 10 munud dramatic cyn y chwiban olaf.

Joe Bennett sgoriodd y gyntaf gyda foli wedi 83 munud ac fe ddaeth Lee Tomlin oddi ar y fainc i sgorio'r ail ar ôl 91 munud i sicrhau pwynt gwerthfawr i Gaerdydd.

Mae Caerdydd bellach yn ail yn y Bencampwriaeth, bedwar pwynt tu ôl i Wolves sydd ar y brig.