Be' gebyst ydy'r ymadrodd?

xx

Be' gebyst? Ydych chi erioed wedi defnyddio'r geiriau hynny?

Tarddiad yr ymadrodd oedd dan sylw Rhaglen Aled Hughes fore Mawrth.

Angharad Fychan, aelod o dîm Geiriadur Prifysgol Cymru gafodd y gwaith o egluro gwreiddiau'r dywediad:

"Da ni'n gyfarwydd â'r gair 'cebyst' fel penffrwyn anifail - mae'n air sydd wedi cael ei fenthyg o'r Lladin. Ond yn ogystal â'r ffurf lythrennol 'ma 'dan ni'n gyfarwydd â hi, mae 'na ystyr ffigurol hefyd.

"Mae Cebystr yn gallu golygu melltith neu aflwydd, a hynny'n enwedig fel math o lw. Dyna sydd mewn gwirionedd yn ein cyfeirio ni i'r cyfeiriad cywir efo'r ymadroddion yma: 'Be gebyst?', 'Pam gebyst?', 'Pwy gebyst?' 'Sut gebyst?'

"Beth ydy 'cebyst' yn yr achos hynny ydi cryfhau cwestiwn. Pe tawn i'n gofyn 'be' ydy hyn?' Dydy o ddim yn gwestiwn cryf nac ymfflamychol o gwbl.

Cryfhau'r cwestiwn

"Ond os fyswn i'n dweud 'Be' gebyst ydy hyn?' mae'n cryfhau'r peth yn dipyn. Mae'r un peth yn wir os byswn i'n gofyn 'Sut gebyst nes di hynna?', 'Pwy gebyst 'nath hynna?', 'Pam gebyst...?' Mae 'na ryw deimlad o ryw ebychiad neu lw ynddo fe.

"Mae'n rhoi dipyn mwy o rym i'r frawddeg, ond pan nes i edrych yn y geiriadur nes i sylweddoli bod yr ymadroddion 'ma ddim yn unigryw efo 'cebyst'.

"Nes i sôn bod cebyst yn gallu golygu 'melltith' neu 'aflwydd' yn yr ystyr ffigurol, ac mae aflwydd yn gallu digwydd yn yr un lle - 'Ble aflwydd wyt ti wedi bod?' neu 'Sut andros nes di hynna?', 'Be goblyn fues di'n ei wneud?', 'Be gynllwyn sy'n mater arnat ti?'.

"Ac mae 'na eiriau sydd dipyn yn gryfach: 'cythraul', 'diawl', 'uffern' a 'cythgam'. Mae cythgam yn ffurf cythral, yn lleddfiad arno fe, efallai i bobl sydd ddim eisiau rhegi.

"Mae'n ymddangos i fi fod yr ymadroddion wedi dechrau cael eu defnyddio yng nghanol y G19fed (1850au-1860au) a hyd y gwn i yn perthyn i'r gogledd."

Pynciau Cysylltiedig