Cwest i farwolaeth safle ail gylchu

Rycycle Cymru Image copyright Google
Image caption Cafodd Norman Butler ei ddal mewn peiriant ar safle Recycle Cymru, Bae Cinmel

Mae Cwest wedi'i agor yn dilyn marwolaeth dyn a gafodd ei ddal mewn peiriant ar safle ail gylchu ym Mae Cinmel.

Bu farw Norman Butler, 60 oed ar safle Recycle Cymru ym Mharc Diwydiannol Tir Llwyd, Bae Cinmel ar 3 Tachwedd ar ôl mynd yn sownd mewn peiriant.

Er i'r gwasanaethau brys cael eu galw i'r digwyddiad roedd Mr Butler wedi marw yn y fan ar lle.

Mewn gwrandawiad yn Rhuthun dywedodd y Crwner, John Gittins fod y patholegydd wedi datgan mai o ganlyniad i golli llawer o waed y bu Mr Butler farw.

Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn ymchwilio i'r digwyddiad, ac er i Mr Gittins ddweud byddai cwest llawn yn digwydd ym mis Mai, mae posib caiff ei ohirio ymhellach.

Gan mai damwain ddiwydiannol ydoedd mae rhaid i reithgor fod yn rhan o'r cwest.

Straeon perthnasol