Canfod corff dyn 31 oed mewn pentref yng Ngwynedd

Llanbedrog Image copyright Google

Mae'r heddlu'n ymchwilio wedi i gorff dyn gael ei ddarganfod mewn pentref yng Ngwynedd fore Mercher.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i gyfeiriad ym mhentref Llanbedrog ychydig wedi 08:30, wedi adroddiadau fod corff dyn 31 wedi ei ganfod.

Mae'r heddlu wedi cadarnhau nad ydyn nhw'n trin y farwolaeth fel un amheus.

Dywedodd yr Uwch Arolygydd Richie Green o Heddlu Gogledd Cymru: "Fe dderbyniodd yr heddlu alwad gan y gwasanaeth ambiwlans am 08:43, wedi i gorff y dyn gael ei ddarganfod.

"Mae ei deulu a'r crwner wedi cael gwybod am y farwolaeth."