Trydar y Cymry 2017

Mae'n gyfrwng yn aml i rannu'r dwys a'r digri ac i ollwng 'chydig o stêm.

Dyma i chi olwg gyflym ar rai o'r negesuon Twitter wnaeth ddal ein sylw yn ystod y flwyddyn ddiwethaf:

Roedd hi'n flwyddyn o ddathlu i Radio Cymru. Pwy fasai'n meddwl bod yna dros 40 mlynedd ers i Hywel Gwynfryn agor y meic a rhoi'r Iaith ar Waith ar Helo Bobol?

Dyma i chi olwg mewn lluniau ar rai o wynebau cyfarwydd eraill yr orsaf ers 1977:

Wrth gwrs, mi fydd yna wasanaeth newydd sbon danlli i edrych ymlaen ato yn 2018:

Roedd 'na law mawr yn ystod Eisteddfod Ynys Môn ond roedd 'na gwmwl mawr arall yn hofran yn ystod yr wythnos. Agorodd yr argae ar Twitter ac roedd 'na lif di-baid o gwynion a beirniadaeth am eitem ar ddyfodol y Gymraeg ar raglen newyddion Newsnight y BBC.

Nid dyma'r tro cynta i'r Cymry hitio'r to efo ymdriniaeth o'r Gymraeg:

Credwch neu beidio, ar un adeg, y Saesneg oedd mewn perygl. Fe gewch chi eglurhad yn y stori hon sy'n seileidig ar drydariad y gantores Gwenno...

Beth bynnag yw agwedd rhai pobl at y Gymraeg, mae'r iaith dal yn fyw ac mae hi i'w gweld yn aml mewn llefydd annisgwyl, fel... Northampton.

Fe gewch chi ragor o gefndir llun y newyddiadurwr Marc Webber yn y stori hon...

Roedd nifer o rieni sy'n ceisio magu eu plant yn y Gymraeg yn gallu cydymdeimlo gyda theimladau Esyllt Sears. Mi wnaeth Esyllt ymhelaethu ar y pwnc mewn colofn i Cymru Fyw...

Mae Twitter wedi bod yn gyfrwng cyfleus iawn i bobl rannu enghreifftiau o arwyddion Cymraeg sâl. Ond mae'r llun hwn gafodd ei weld yng Nghaerdydd yn rhoi gwedd newydd ar bethau.

Fe welwch chi enghreifftiau pellach o arwyddion Cymraeg da yn y stori hon...

Mae'r darlledwr Huw Edwards yn ddefnyddiwr brwd o'r cyfryngau cymdeithasol. Fe welwn ni o yn fan hyn yn addysgu cenhedlaeth newydd o wylwyr a darpar gyflwynwyr BBC News at Ten sut mae cyfleu awdurdod ac urddas cyn rhannu'r newyddion gyda dros 10 miliwn o bobl.

Dyma i chi enghraifft arall yn fan hyn o allu Huw i greu argraff fawr ar y cyfryngau cymdeithasol...

Efallai eich bod wedi rhoi cynnig ar rhai o gwisys Cymru Fyw yn ystod y flwyddyn a meddwl bod rhai ohonyn nhw yn eithaf gwallgo', ond ddim cweit mor boncyrs â'r un yma yn Y Cymro y daeth y llenor Elis Dafydd ar ei draws tra'n ymchwilio yn y llyfrgell.

Fe gewch chi'r atebion llawn i'r cwis yn yr erthygl yma: