Abertawe 0-4 Manchester City

Abertawe Man City Image copyright PA
Image caption Sgoriodd David Silva am y drydedd gêm yn olynol

Mae Abertawe'n parhau ar waelod tabl Uwch Gynghrair Lloegr ar ôl colli'n drwm yn erbyn Manchester City sydd ar y brig.

David Silva aeth â'r ymwelwyr ar y blaen wedi 27 munud, cyn i Kevin de Bruyne daro'r rhwyd o gic rydd.

Parhau wnaeth rheolaeth Manchester City yn yr ail hanner gyda Silva'n sgorio ei ail, cyn i ergyd Sergio Aguero yn y munudau olaf selio'r fuddugoliaeth.

Dyma chweched colled yr Elyrch yn eu naw gêm gartref hyd yma'r tymor hwn.

I Manchester City, mae'r fuddugoliaeth yn golygu eu bod 11 pwynt yn glir ar frig y tabl.