Cofis yn gweld manteision i Brexit

Cerddor yn canu dan gerflun Lloyd George ar faes Caernarfon
Image caption Gall trefi Cymru wneud mwy i gynnig profiad Cymreig unigryw i ymwelwyr meddai rhai o bobl fusnes Caernarfon

A ydi pleidlais Brexit yn cynnig mwy o gyfle i Gymru farchnata ei hiaith a'i diwylliant i ymwelwyr?

Gyda'r bunt yn wan ar hyn o bryd mae rhai o bobl fusnes Caernarfon wedi bod yn trafod y cyfleon sydd i ddenu ymwelwyr i Gymru gyda Garry Owen ar Taro'r Post, BBC Radio Cymru.

"Mae'n gas gen i be' mae Brexit wedi ei achosi yn y wlad 'ma," meddai Rhys Davies sydd wedi agor byncws, caffi a bar Tŷ Glyndŵr yn y dref.

"Ond mae'r bunt yn wan ar y funud ac mae pawb dwi wedi siarad efo nhw sy'n dod o dramor yn dweud bod y lle yn ofnadwy o rhad i drafaelio iddo.

"Dwi wedi agor ers 10 wythnos bellach ac rydw i wedi cael ryw 80 o bobl yn aros yn y byncws, pobl o Argentina, Poland, Rwsia, Japan, China, sydd wrth eu boddau'n aros yma.

"Y neges yn glir ganddyn nhw ydy bod y bunt yn wan - mae'n ufflon o le rhad i ddod i wario eu pres."

Mae Mr Davies hefyd yn credu bod angen i Gymru sylweddoli faint o ymwelwyr o bedwar ban byd sydd eisiau dod yma i wybod mwy am hanes, iaith a diwylliant.

"Ro'n i'n rhedeg cwmni trafaelio cynt, yn mynd dramor i wahanol wledydd, a gogledd Cymru ydi un o'r llefydd prydferthaf yn y byd dwi'n meddwl," meddai.

"Plys, mae gen ti bobl Caernarfon - Caernarfon ydy Y dref fwyaf Cymreig yn y byd. Mae angen inni fasnachu hynny.

"Mae pobl o dramor yn enwedig yn caru'r Cymry. Ges i ddau Rwsiad yn aros yma oedd yn dallt y Mabinogi, wedi dysgu caneuon shanti Cymraeg ac wedi bod yng Nghymru bump gwaith.

"Mae mwy o wefannau am Gymru mewn Rwsieg nag sydd 'na yn lleol achos mae ganddyn nhw ddiddordeb mawr mewn dod i'r ardal. Roedden nhw wedi dysgu Cymraeg. Roedden nhw'n mynd i Geredigion i gael clocsiau.

"Do'n i ddim yn sylweddoli pa mor boblogaidd ydi Cymru dramor.

"Mae angen inni sylweddoli be sydd gynnon ni ar ein stepen drws ein hunain."

Eisiau profi diwylliant gwahanol

Yn ôl John Evans, perchennog tafarn y Black Boy yn y dref, mae pobl o dramor yn dod i'r dref i weld diwylliant gwahanol.

"Dydy'r bobl sy'n dod yma i aros efo ni o dramor ddim eisiau gweld y siopau mawr, maen nhw eisiau gweld y siopau bach a chlywed yr iaith Gymraeg yn y dre a'r bywyd Cymraeg sydd gynnon ni yng Nghaernarfon," meddai.

"Mae mor bwysig cadw'r iaith Gymraeg i fynd achos mae'r bobl 'ma wrth eu bodd yn dod drosodd i glywed hynny yn naturiol bob dydd."

Image caption Dr Edward Jones, John Evans ac Owain Wyn yn siarad gyda Garry Owen ar faes Caernarfon

Mae Owain Wyn yn aelod o fwrdd Llety Arall, menter sy'n bwriadu agor llety i bobl sydd am brofi'r Gymraeg neu ddysgu am ddiwylliant a threftadaeth y dref a'r ardal.

"Mae 'na ragdybiaeth y bydd Brexit, beth bynnag mae rywun yn ei feddwl ohono, yn mynd i'w gwneud hi'n fwy deniadol i bobl ddod i rywle fel Caernarfon os ydi'r bunt yn syrthio'n bellach," meddai.

Ychwanegodd Rhys Davies y bydd hi'n costio mwy i fynd am wyliau tramor unwaith bydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ac felly bydd hynny hefyd yn help i fusnesau gwyliau lleol.

Amser inni farchnata fel y Gwyddelod?

Mae ymchwil wedi ei gynnal ym Mhrifysgol Bangor sy'n cefnogi manteision defnyddio'r Gymraeg mewn busnes meddai Dr Edward Jones sy'n darlithio gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn y brifysgol.

"Rydan ni wedi darganfod fod pobl yn fodlon talu mwy i gael gwasanaeth neu gynnyrch drwy gyfrwng y Gymraeg," meddai.

"Felly mae defnyddio'r Gymraeg mewn busnes yn rhywbeth sy'n gwneud synnwyr, dim yn unig ei fod yn rhywbeth naturiol inni ei wneud beth bynnag, ond er mwyn gwneud mwy o elw i fusnes lleol, defnyddio'r Gymraeg ydy'r ffordd orau ymlaen.

"Y broblem ydi ein bod ni'n cymryd yn ganiataol ein bod ni'n siarad Cymraeg ac yn gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg ac yn y blaen - tydan ni ddim wedi meddwl ei fod o'n unique selling point a'n bod ni'n gallu gwerthu'r iaith.

"Os ydan ni'n edrych ar be mae'r Gwyddelod yn ei wneud, os ydach chi'n cerdded mewn i dafarn yn Iwerddon mae'r gerddoriaeth Wyddelig yn chwarae.

"Maen nhw wedi chwarae ar y diwylliant yna a dwi'n meddwl ei fod yn amser inni ddechrau meddwl sut fedran ni werthu'n diwylliant a'r iaith i weddill y byd?"