Cwpan Her Ewrop: Gleision 14-6 Sale

Matthew Morgan Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Matthew Morgan wnaeth sgorio unig gais y gêm

Fe wnaeth y Gleision sicrhau eu trydedd fuddugoliaeth mewn pedair gêm yn y Gwpan Her wrth guro Sale mewn amgylchiadau anodd yng Nghaerdydd.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu fod y Gleision wedi taro'r pwyth yn ôl, ar ôl colli o 24-0 yn erbyn Sale yn gynharach yn y tymor.

Mewn tywydd diflas cais Matthew Morgan wnaeth osod seiliau'r fuddugoliaeth ar ôl hanner cyntaf cystadleuol gyda'r ddau dîm yn gyfartal 3-3.

Fe wnaeth esgid Gareth Anscombe sicrhau'r fuddugoliaeth gyda dwy gic cosb o bellter.

Bu'n rhaid i'r Gleision chwarae heb eu capten Gethin Jenkins ar ôl iddo ef fethu prawf ffitrwydd ar ei ben-glin cyn y gêm.

Pynciau Cysylltiedig