Cwpan Pencampwyr Ewrop: Benetton 12-31 Scarlets

Gareth Davies Image copyright Huw Evans Agency
Image caption Gareth Davies yn sgorio ei gais cyntaf

Llwyddodd y Scarlets i ailgydio yn eu hymgyrch yn rownd nesa Cwpan y Pencampwyr gyda buddugoliaeth pwynt bonws yn erbyn Benetton yn Treviso.

Cael a chael oedd hi wythnos yn ôl gartre yn erbyn 14 dyn yr Eidalwyr, ond yn Treviso fe lwyddodd yr ymwelwyr i sgorio pedwar cais.

Croesodd Gareth Davies ddwywaith, gydag un cais yr un i Johnny McNicholl a Paul Asquith yn sicrhau'r pwynt bonws o fewn 44 munud.

Mae'r canlyniad yn gadael y Scarlets yn drydydd yn y tabl, pwynt y tu ôl i Gaerfaddon a Toulon.

Ym mis Ionawr fe fydd yna ddwy gêm fawr i'r Scarlets wrth iddyn nhw deithio i Gaerfaddon, ac yna croesawu Toulon i Barc y Scarlets.

Pynciau Cysylltiedig