Cwpan Her Ewrop: Dreigiau 25-27 Newcastle

Y Dreigiau v Newcastle Falcons Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Elliot Dee i'r Dreigiau yn cael ei daclo gan Ben Sowrey a Gary Graham

Colli oedd hanes y Dreigiau yn Nghwpan Her Ewrop yn erbyn Newcastle Falcons nos Wener.

Fe wnaeth y bachwr, Elliot Dee groesi ddwywaith yn yr hanner cyntaf ar ôl i Newcastle sgorio dwy gais, cyn i Gary Graham sgorio trydedd cais yr ymwelwyr.

Newcastle Falcons oedd ar y blaen ar yr hanner gyda'r sgôr yn 17-24.

Fe wnaeth cais gan Ashton Hewitt a throsiad cywir Gavin Henson roi gobaith i'r Dreigiau yn yr ail hanner, ond fe wnaeth Joel Hodgson sicrhau'r fuddugoliaeth i Newcastle gyda chic gosb wedi 66 munud.