Tlws FA Lloegr: Wrecsam 0-2 Harrogate

Mark Beck Image copyright Huw Evans Agency
Image caption Mark Beck yn ystod ei gyfnod gyda Wrecsam

Fe wnaeth dwy gôl gan Mark Beck i Harrogate roi diwedd ar obeithion Wrecsam o unrhyw fath o rediad yng nghystadleuaeth Tlws FA Lloegr.

Bu Beck ar fenthyg gyda Wrecsam yn 2016, lle fethodd â sgorio mewn 11 gêm.

Ond peniodd yr ymwelwyr ar y blaen ar ôl 41 munud.

Ychwanegodd yr ail 14 munud ar ôl yr egwyl o groesiad Ryan Fallowfield.

Aeth Wrecsam yn agos pan ergydiodd Cameron McGregor yn erbyn y postyn, ond ofer fu eu hymdrechion.