Dynes wedi'i chyhuddo o lofruddio'i gŵr yn Aberdâr

Neal Jex gyda'i ferch, Tanysha, a'i ŵyr, Charlie Image copyright Llun teulu
Image caption Neal Jex gyda'i ferch, Tanysha, a'i ŵyr, Charlie

Mae dynes wedi cael ei chyhuddo o lofruddio'i gŵr 52 oed yn Aberdâr dros y penwythnos.

Cafodd Neal Jex ei ganfod yn farw mewn cyfeiriad yn ardal Pen-y-waun y dref ddydd Sul.

Dywedodd Heddlu De Cymru ei fod wedi cael ei drywanu.

Fe wnaeth Natasha Smith, 31, ymddangos yn Llys Ynadon Merthyr Tudful ddydd Mawrth wedi'i chyhuddo o'i lofruddiaeth.

'Etifeddiaeth yn parhau'

Dywedodd teulu Mr Jex eu bod yn "torri ein calonnau, wedi colli brawd, mab, tad, tad-cu a ffrind".

"Roedd yn caru ei deulu ac wedi i chi gwrdd ag ef fyddech chi fyth yn ei anghofio," meddai'r teulu.

"Bydd ei etifeddiaeth yn parhau trwy ei ŵyr, fydd fyth yn cael y cyfle i'w garu cymaint ag y gwnaethon ni."

Mae'r heddlu'n parhau i ymchwilio i'r digwyddiad.