Dyn o'r Fflint yn ddieuog o geisio cipio plentyn

Pafiliwn Jade Jones Image copyright Google
Image caption Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ger Pafiliwn Jade Jones ar 20 Awst

Mae dyn 50 oed o'r Fflint wedi'i ganfod yn ddieuog i gyhuddiad o geisio cipio plentyn pedair oed yn y dref.

Cafodd Krzysztof Ogonowski ei arestio wedi i'r heddlu gael eu galw i'r digwyddiad ger Pafiliwn Jade Jones yn am tua 14:00 ar 20 Awst.

Roedd gan Mr Ogonowski gyfieithydd Pwyleg yn ei gynorthwyo yn ystod yr achos yn Llys y Goron Caernarfon.

Roedd wedi pledio'n ddieuog i'r cyhuddiadau yn ei erbyn gan ddweud ei fod wedi cael ei gamgymryd am rywun arall.

Straeon perthnasol