Tri yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad lori cyngor a char

Ambiwlans

Mae tri o bobl wedi'u cludo i'r ysbyty wedi gwrthdrawiad rhwng un o lorïau Cyngor Sir Benfro a char.

Daeth ambiwlans awyr i nôl gyrrwr y car yn dilyn y digwyddiad ar yr A478 ger Cilgerran yn y sir tua 11:40 dydd Mawrth.

Cafodd y ddau oedd yn y lori cynnal a chadw eu danfon i'r ysbyty mewn ambiwlans ffordd.

Fe gafodd y ffordd ei chau wedi'r digwyddiad, gyda chyngor i yrwyr osgoi'r ardal.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn gofyn i unrhyw dystion gysylltu gyda nhw ar 101.

Pynciau Cysylltiedig