Ynys Bŷr: Galw am adolygu marwolaeth merch, 6, a foddodd

mainc theresa
Image caption Bu farw Theresa Biggs ar ôl mynd i drafferthion yn y môr yn haf 1977

Mae teulu merch wnaeth foddi wrth nofio oddi ar draeth yn Ynys Bŷr wedi gofyn am adolygiad o'i chwest - 40 mlynedd wedi ei marwolaeth.

Roedd Theresa Biggs yn chwech oed pan fu farw ar 18 Gorffennaf 1977, tra ar wyliau gyda'i theulu.

Clywodd cwest fod lleian oedd yn goruchwylio'r plant ar y traeth wedi dweud wrth Theresa beidio nofio yn y dŵr, ond dywedodd teulu Theresa nad oedd hynny'n wir.

Dywedodd Joanna Biggs fod y Chwaer Sheila Singleton wedi dweud celwydd, ac nad oedd ei chwaer Theresa wedi anwybyddu gorchymyn i beidio nofio yn y môr ar ddiwrnod ei marwolaeth.

Cerrynt cryf

"Dyw tystiolaeth y Chwaer Sheila ddim yn wir," meddai Joanna Biggs.

"Rydw i'n cofio gweld y Chwaer Sheila yn rhoi'r rhwymynnau braich ar Theresa a dweud 'bant â thi'."

Mae Joanna Biggs, 48, wedi dod yn ei blaen yn dilyn honiadau o gam-drin rhyw hanesyddol gan fynach ar Ynys Bŷr rhwng 1947 ac 1992.

Gan ildio'i hawl i fod yn anhysbys, dywedodd ei bod hi a'i chwaer wedi cael eu cam-drin gan y Tad Thaddeus Kotik pan oedd hi'n blentyn, a'i bod eisiau i'r gwir ddod i'r fei am farwolaeth Theresa.

Roedd y Chwaer Sheila, fu farw yn 2004, yn goruchwylio grŵp o blant oedd yn nofio ym Mae Sandtop ar yr ynys.

Roedd gwyntoedd cryfion yn chwythu ac roedd isgerrynt cryf yn llifo ar y pryd, yn ôl adroddiadau.

Fe wnaeth bachgen 14 oed roi tystiolaeth ysgrifenedig i'r cwest yn dweud fod y Chwaer Sheila wedi gofyn iddo fynd â Theresa lawr at y dŵr, a'i fod wedi cytuno.

"Fe wnaeth y ddau ohonom ni fynd i'r dŵr ond roedd yn rhy ddwfn i'r ferch felly fe wnes i ddod â hi allan," meddai.

"Fe benderfynom ni fynd nôl i mewn a'r tro hwn roedd e'n fwy bas."

Image caption Dywedodd Joanna Biggs fod gweld lluniau o'r Tad Kotik wedi achosi iddi gael pŵl o banig

Dywedodd Joanna Biggs fod y Tad Thaddeus wedi ei cham-drin a'i "theimlo" hi pan oedd hi'n saith oed:

"Roedd ganddo ddwylo mawr... garw, croengaled... mae hwnna'n atgof clir. Dwi'n cofio teimlo'n oer, er ei bod hi'n ddiwrnod braf a phoeth," meddai.

Dywedodd ei bod hi a'i chwaer Theresa, oedd flwyddyn yn ieuengach na hi, weithiau'n "cuddio yn yr ardd" ac yn cael "sgyrsiau dirgel pan fydden ni'n cytuno ar bethau".

"Roedd Theresa yn dweud 'dydyn ni ddim am fynd i weld y Tad Thaddeus, hyd yn oed os yw e'n rhoi losin i ni'.

"Roeddwn i'n gwybod yn union am beth roedd hi'n sôn... doeddwn i ddim yn hoffi beth roedd e'n ei wneud chwaith ac roedd gennym ni'r cytundeb 'ma na fydden ni'n mynd i'w weld."

Dywedodd fod clywed sôn neu weld pethau sydd yn ei hatgoffa o'r mynach yn gallu ei hachosi i gael pŵl o banig.

"Mae'r trawma yn rhywbeth dwi wedi dod i arfer byw gyda fe ac ymdopi gyda fe. Allai ddim darogan beth fydd yn ei achosi... mae'n rhaid i mi geisio tawelu fy hun... mae'n fy ngwneud i'n flinedig iawn pan mae'n digwydd."

Dywedodd fod y tonnau'n uchel a'r llanw'n dod i mewn, a bod Theresa wedi mynd i drafferthion ger y creigiau.

Fe wnaeth e a bachgen arall geisio'i hachub hi ond roedd y tonnau'n ei gwneud hi'n rhy anodd, ac fe wnaeth trydydd bachgen fethu â'i chyrraedd oherwydd bod y cerrynt yn rhy gryf.

Dywedodd Joanna Biggs fod yr atgofion oedd ganddi'n rhai poenus iawn.

"Dwi'n cofio edrych lan a gweld cythrwfl mawr wrth y creigiau a gweld fêl llwyd y lleian yn chwythu yn y gwynt," meddai.

"Nes i fynd draw i ofyn beth oedd yn digwydd ac fe drodd rownd i edrych arna i ac roedd ei hwyneb yn un o arswyd llwyr. Roedd e'n ofnus iawn."

'Ble oedd yr oedolion?'

Cafodd corff Theresa ei ganfod gan wylwyr y glannau, ac mae ei theulu nawr eisiau i'r cwest gael ei adolygu.

"Y neges sy'n dod drosodd yw bod fy chwaer druan yn gyfrifol am ei marwolaeth ei hun, ac os nad hi oedd yn gwbl gyfrifol, yna roedd y bechgyn geisiodd ei hachub hefyd yn gyfrifol am ei marwolaeth," meddai.

"Mae'n neges ffals. Dyma'r math o beth sy'n ein brifo a'n hail-drawmateiddio ni drosodd a throsodd.

"Mae'r materion yma'n bwysig nid yn unig i mi ond fy rhieni hefyd - maen nhw wedi dioddef llawer dros y blynyddoedd."

Image caption Mae Theresa Biggs a'i thaid, Zdzislaw Sieroslawski, wedi eu claddu mewn mynwent ar Ynys Bŷr

Mae'n dweud ei bod wedi'i phoenydio gyda'r ffaith fod tri o'r bechgyn wedi ceisio helpu Theresa ond fod oedolion ar y traeth a'r cerrig wnaeth ddim helpu.

"Roedd e'n fyrdwn digon trwm i'r plant yma gario am weddill eu bywydau beth bynnag ond ar ben hyn, doedd dim sôn yn y cwest am ddiffyg gweithredu'r oedolion oedd yn bresennol y diwrnod hwnnw - oni bai am ddatganiad ffals y Chwaer Sheila.

"Mae angen gofyn cwestiynau - pam oedd unrhyw blant yn cael nofio ar draeth mor beryglus y diwrnod hwnnw? Pam na wnaeth unrhyw oedolyn fynd i'r dŵr i geisio helpu'r bechgyn?"

Gofynnodd hefyd pam na chafodd rhybuddion digonol eu gosod ar y traeth yn dilyn marwolaeth ei chwaer.

"Mae ein teulu ni wedi dychwelyd flwyddyn ar ôl blwyddyn i Ynys Bŷr ac mae'n destun tristwch mawr i ni nad oes arwyddion digonol o'r isgerhyntau peryglus ym Mae Sandtop."

Mae BBC Cymru wedi cysylltu ag abaty Ynys Byr am sylw.

Gallwch gysylltu gyda BBC Cymru am y stori yma trwy ffonio 02920 322 236 neu e-bostio newsonline.wales@bbc.co.uk