Wrecsam 0-0 Dover

Pel droed Image copyright Huw Evans picture agency

Mewn gêm dynn chafodd yr un gôl ei sgorio rhwng Wrecsam a Dover.

Efallai nad yw hynny yn syndod gan mai dyma'r ddau dîm sydd wedi ildio'r lleiaf o goliau yn y gynghrair.

Wrecsam gafodd y cyfleoedd gorau a hynny yn yr ail hanner gydag un ymgais wedi 73 munud yn agos iawn i fynd i mewn.

Ond mae'n bosib fod y pwynt hwn yn un gwerthfawr i'r tîm cartref, am fod canlyniadau gemau eraill yn golygu fod Wrecsam nawr ddim ond dau bwynt tu ôl i Macclesfield ac yn ail yn y gynghrair.