Casnewydd 0-0 Lincoln

Casnewydd Image copyright Huw Evans picture agency

Mae Casnewydd wedi cipio pwynt gartref yn erbyn Lincoln mewn gêm ddi-ddrwg ddi-dda.

Y prif ddigwyddiad oedd i'r tîm o Gymru fynd lawr i 10 dyn saith munud ar ôl dechrau'r ail hanner wedi tacl hwyr gan Marc O'Brien ar y blaenwr Matt Green.

Er hynny wnaeth yr ymwelwyr ddim llwyddo i fanteisio yn Rodney Parade a Chasnewydd gafodd y cyfleon gorau gyda un ergyd fodfeddi dros y trawst.

Di-sgor felly oedd y canlyniad ar ddiwedd y chwarae.

Canlyniad hyn i gyd yw i'r Alltudion ddisgyn un lle yn y gynghrair, i'r degfed safle.