Damwain A547: Cyhoeddi enw dau fu farw

Daniel Deegan Image copyright Heddlu Gogledd Cymru
Image caption Roedd Daniel Deegan yn dad i bedwar o blant

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw y ddau ddyn fu farw wedi gwrthdrawiad ar yr A547 yn Llanddulas ger Abergele ddydd Mercher.

Cafodd Daniel Deegan 26 oed o Sir Gaerhirfryn ei ladd yn syth yn y digwyddiad yn Sir Conwy.

Cafodd dyn arall Martin Clifford, 41 oed o Lysfaen ger Bae Colwyn, ei gludo i'r ysbyty ond bu farw yn ddiweddarach.

Mae teulu Mr Deegan oedd yn cael ei adnabod fel Del Boy wedi ei ddisgrifio fel dyn ei deulu.

Mewn datganiad dywedwyd ei fod "yn boblogaidd yn lleol ac yn hoffus gan bawb oedd yn ei adnabod. Roedd bob amser yn creu argraff dda."

Cafodd gyrrwr fan Vauxhall Vivaro hefyd anafiadau yn y digwyddiad.