Colli cyflenwad dŵr wedi i bibell fyrstio yng Nghaerdydd

Cyflenwad dŵr Image copyright Science Photo Library

Mae Dŵr Cymru'n dweud eu bod yn ymdrechu i adfer y cyflenwad i nifer o gartrefi yng Nghaerdydd wedi i bibell fyrstio.

Mae gweithwyr yn delio â'r toriad yn un o brif bibellau'r ddinas yn ardal Tredelerch, sydd hefyd yn effeithio ar gartrefi yn Llanrhymni, Cyncoed, Pentwyn, Llanedern a Phenylan.

Dywedodd Dŵr Cymru fod rhai ardaloedd wedi colli cyflenwad, tra y gallai eraill weld lliw gwahanol i'r dŵr, sy'n "arferol".

"Rydym yn gweithio'n galed i geisio datrys y mater ac mae disgwyl i'r cyflenwad dŵr ddychwelyd yn ddiweddarach heddiw.

"Byddwn yn cysylltu â'n cwsmeriaid gyda'r wybodaeth ddiweddaraf, ac ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra."

Dŵr potel ar gael

Yn ddiweddarach, dywedodd Dŵr Cymru bod y cyflenwad bellach wedi ei adfer i ardaloedd Cyncoed, Pentwyn, Llanedern a Phenylan, a'u bod yn dal i weithio er mwyn dychwelyd y cyflenwad i Lanrhymni a Thredelerch.

Ychwanegodd llefarydd fod dŵr potel ar gael yng Nghanolfan Hamdden y Dwyrain yn Llanrhymni i unrhyw un sydd ei angen.