Dreigiau 17-22 Gleision

Dreigiau Gleision Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Matthew Morgan o'r Gleision yn cael ei ddal gan amddiffynwyr y Dreigiau

Llwyddodd y Gleision i ennill eu hail fuddugoliaeth yn erbyn y Dreigiau yn nghystadleuaeth y Pro 14 eleni er gwaetha gêm glos.

Rhoddodd ceisiau gan Aled Summerhill, Rey Lee-Lo a Tom James fantais gyfforddus i'r Gleision, cyn i gais a chic gosb gan Lloyd Fairbrother ddod â'r Dreigiau yn ôl i'r gêm.

Ond buddugoliaeth oedd hi i'r Gleision yn y pen draw, sy'n golygu nad ydy'r Dreigiau wedi eu curo ers union dair blynedd yn ôl ym Mharc yr Arfau.

Y Gleision yn dathlu felly, tra bo'r Dreigiau'n poeni am ffitrwydd eu hasgellwr Hallam Amos, a gerddodd yn gloff oddi ar y cae yn hwyr yn y gêm.

Pynciau Cysylltiedig