Scarlets 12-9 Gweilch

Scarlets Gweilch Image copyright Ben Evans/Huw Evans Picture Agency
Image caption Cafodd Steff Evans gerdyn coch am y dacl hon ar Ben Johns

Llwyddodd y Scarlets i fachu buddugoliaeth munud olaf yn erbyn y Gweilch yn eu gêm ddarbi yn y Pro 14.

Roedd y tîm cartref ar y blaen o 5-0 pan gafodd sgoriwr y cais hwnnw, Steff Evans ei anfon o'r maes â cherdyn coch am daclo Ben Johns yn yr awyr wedi 37 munud.

Rhoddodd hynny gyfle i'r Gweilch ennill tir, ac fe lwyddodd y maswr Sam Davies i fynd â'r Gweilch ar y blaen o 9-5.

Roedd buddugoliaeth o fewn golwg i'r Gweilch tan y funud olaf, pan diriodd Josh Macleod y bêl i'r Scarlets yn eiliadau ola'r gêm.

Mae'r Scarlets ar frig tabl B, tra bo'r Gweilch ar waelod tabl A y Pro14.