Caerdydd 2-4 Fulham

Caerdydd Fulham Image copyright Chris Fairweather/Huw Evans Picture Agency
Image caption Craig Bryson o Gaerdydd yn taclo Tom Cairney yng nghanol y glaw

Collodd Caerdydd y cyfle i gau'r bwlch ar frig y Bencampwriaeth wrth iddyn nhw golli eu gêm gartref gyntaf y tymor hwn, a hynny yn erbyn Fulham.

Fe aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedi 12 munud wrth i Tim Ream daro'r bêl i gefn y rhwyd.

Ychydig funudau i fewn i'r hail hanner y daeth eu hail, y tro hwn gan Floyd Ayité, ond daeth yr Adar Gleision yn ôl i mewn i'r gem gydag ergyd Kenneth Zahore.

Ond methodd Caerdydd a chael gafael ar y gêm, a daeth trydedd gôl Fulham i Ryan Sessegnon wedi 78 munud.

Llwyddodd Callum Paterson i benio'r bêl i gefn y rhwyd ddwy funud i mewn i'r amser ychwanegol, ond fe seliodd Stefan Johansen y fuddugoliaeth i Fulham bedair munud yn ddiweddarach.

Mae'r golled yn golygu fod Caerdydd yn syrthio i'r trydydd safle yn y Bencampwriaeth wedi i Brystol City guro Reading i godi i'r ail safle.

Mae'r Adar Gleision bellach wyth pwynt y tu ôl i Wolves sydd ar frig y tabl, wedi iddyn nhw gael gêm gyfartal yn erbyn Millwall.

Pynciau Cysylltiedig