Cyhuddo dyn o dreisio merch yng Nghaernarfon

Ynadon Llandudno
Image caption Cafodd Andrew Maylor ei gadw'n y ddalfa ar ôl bod o flaen ynadon yn Llandudno

Mae dyn wedi bod o flaen llys wedi ei gyhuddo o dreisio dynes yng Nghaernarfon noswyl Nadolig.

Mae Andrew Maylor o Ddolgellau yn cael ei gyhuddo o ymosod ar ferch 20 oed yng nghanol y dref.

Fe aeth o flaen ynadon Llandudno ddydd Mawrth a siaradodd i gadarnhau ei enw a'i gyfieriad yn unig.

Bu cais iddo gael ei ryddhau ar fechniaeth yn aflwyddiannus.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo fynd o flaen Llys y Goron Caernarfon ar 29 Ionawr.