Dyn wedi marw yn dilyn ymosodiad yn Abertawe

Ymosodiad Abertawe Image copyright Heddlu'r De/BBC
Image caption Bu farw David Wynne yn dilyn yr ymosodiad nos Sadwrn

Mae dyn 39 wedi marw yn dilyn ymosodiad yn Abertawe nos Sadwrn 23 Rhagfyr.

Bu farw David Wynne o Gendros yn Ysbyty Treforys ar Ŵyl San Steffan, yn dilyn y digwyddiad ar stryd fawr y ddinas tua 20:40.

Fe aeth Kyle Dunbar, 29 oed o Fforesfach o flaen Llys Ynadon Abertawe yn gynharach ddydd Mawrth.

Mae e wedi ei gadw yn y ddalfa tan i ddyddiad gael ei bennu ar gyfer ei ymddangosiad nesaf.

Dywedodd Heddlu'r De fod teulu Mr Wynne yn cael cefnogaeth swyddogion arbenigol, a gofynnon nhw i unrhyw un sydd â gwybodaeth i ffonio 101 neu gysylltu â gwasanaeth Taclo'r Tacle.

Straeon perthnasol