Tân ar stad ddiwydianol Pen-y-bont ar Ogwr

Parc diwydianol Pen-y-bont ar Ogwr Image copyright Google
Image caption Fe gafodd diffoddwyr eu galw i dân ar stad ddiwydianol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn ymateb i dân ar stad ddiwydiannol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae pum injan dân ar leoliad gyda diffoddwyr yn rhybuddio pobl leol i gadw ffenestri a drysau ar gau.

Fe gafodd diffoddwyr eu galw am 16:06 ddydd Mercher ac maen nhw'n parhau ar leoliad.

Mae'r gwasanaeth tân wedi cadarnhau mai cerbydau sgrap sydd ar dân ac maen nhw'n cynghori pobl i gymryd pwyll wrth yrru yn yr ardal.