Y Bencampwriaeth: Caerdydd 0-1 Preston

Kenneth Zohore a Chris Maxwell Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Kenneth Zohore a Chris Maxwell yn cystadlu am y bêl

Methiant oedd ymdrech Caerdydd i symud yn ôl i'r ail safle yn y Bencampwriaeth ar ôl iddyn nhw golli am y drydedd gêm yn olynol.

Roedd tîm y brifddinas ym mhell o'u gorau gyda Tom Clarke yn sgorio'r gôl fuddugol i'r ymwelwyr yn y munudau olaf.

Sgoriodd Clarke o dair llathen ar ôl i Neil Etheridge arbed peniad yn dilyn cic gornel.

Cafodd y tîm cartref un cyfle arall, ond llwyddodd y golwr Chris Maxwell i arbed ymdrech yr eilydd Rhys Healey yn eiliadau olaf y gêm.

Mae Preston nawr wedi mynd naw gêm yn ddiguro gan godi i seithfed yn y Bencampwriaeth.

Cyn y gêm hon doedd Caerdydd heb golli tair gêm yn olynol o dan y rheolwr Neil Warnock.

Pynciau Cysylltiedig